
‘Annerbyniol’ bod triniaeth strôc yn amrywio o ardal i ardal yng Nghymru

Mae dioddefwyr strôc a’u teuluoedd yn galw am welliannau i wasanaeth a’r mynediad ar gyfer triniaeth ar draws Cymru gyfan.
Daw hyn wrth i Lywodraeth Cymru ddatblygu ei chynllun cyflawni ar gyfer strôc, ond mae rhai elusennau wedi disgrifio’r mynediad am driniaethau fel “pot luck” ac wedi codi pryderon am effaith yr amseroedd aros ar gyfer ambiwlans.
Ym mis Ebrill 2021, fe gafodd Gareth Hale o Fasaleg yng Nghasnewydd strôc. Bu rhaid iddo aros dwy awr o'r alwad ffôn cychwynnol cyn cael ambiwlans a chael ei weld yn yr ysbyty.
Cyn y strôc, roedd Mr Hale sy’n dad i dri o blant, yn siarad tair iaith yn rhugl ond nawr mae’n anodd iddo gyfathrebu o gwbl. Fe wnaeth hyn arwain at ei ferch, Lisa Hale, symud nôl adref o Lundain.
“Cyn y strôc roedd Dad mor annibynnol, roedd e’n byw ar ben ei hun, byddai’n mynd i wersylla ar ben ei hun, dringo mynyddoedd ac yna’n sydyn mae’n rhaid i mi gynllunio ei wythnos allan iddo,” meddai.
“O ganlyniad i’r strôc, collodd Dad ei holl sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig ac mae ganddo wendid ar ei ochr dde sy’n meddwl bod ganddo ddim defnydd o’r fraich ac mae’n cael trafferth cerdded heb ffon.”

“Cyrhaeddodd yr ysbyty a welodd y meddyg tua dwy awr ar ôl yr alwad ffôn cychwynnol. Gellid bod wedi osgoi effaith y strôc. Mae meddwl gallai’r canlyniad bod yn wahanol yn dorcalonnus.”
Mae ffigurau o gais ryddid gwybodaeth gan ITV Cymru yn datgelu bod 13 o gleifion wedi cael thrombectomi yng Nghaerdydd rhwng Ionawr 2021 a Chwefror 2022. Caerdydd yw’r unig fwrdd iechyd sy’n cynnig y gwasanaeth yn fewnol yng Nghymru.
Dim ond rhwng yr oriau 9:00 a 17:00 y mae'r driniaeth ar gael. Felly, mae rhaid i gleifion cael eu trosglwyddo i ysbytai yn Lloegr tu allan i'r oriau hynny.
Cafodd 34 o bobl o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Hywel Dda, Caerdydd a’r Fro a Betsi Cadwaladr eu cludo i ysbytai ym Mryste neu Lerpwl i gael y driniaeth. Ni ddarparodd Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, Cwm Taf na Phowys y data yma.
Mewn ymateb i stori Mr Hale, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan:
“Gan fod nifer fach iawn o gleifion angen thrombectomi, does dim angen i ni gynnig y gwasanaeth hwn yn fewnol ar hyn o bryd. Ers gyfnod, rydym wedi bod â chytundeb rhanbarthol ar waith lle rydym yn comisiynu Ysbyty Southmead i drin cleifion sy’n gymwys i gael thrombectomi o fewn yr oriau gweithredu.”
Mae tua 7,400 o bobl yng Nghymru yn cael strôc bob blwyddyn, ond yn ôl elusennau gall cannoedd o'r rheini fod yn colli allan ar thrombectomi, sy'n gallu newid bywydau'r unigolion yna.
Dywedodd Katie Chapelle, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc:
"Pan fyddwch chi'n cael strôc gall rhan o'ch ymennydd ddechrau marw. Os byddwch chi'n cael y thrombectomi mewn modd amserol fe all arbed eich ymennydd a gweld unigolyn yn ddychwelyd i fywyd normal."
“Mae yna loteri côd post am driniaeth strôc sy’n annerbyniol ar adeg pan mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn flaenoriaeth allweddol i’r llywodraeth a’r GIG.”
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn gweithio ar wasanaeth ledled Cymru i helpu dioddefwyr strôc gyda chynllun cyflawni gweithredol i wella amseroedd aros ar gyfer ambiwlans.
"Mae nifer y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau thrombectomi wedi dyblu yn y 12 mis diwethaf ac rydym yn gweithio'n galed tuag at ddatblygu gwasanaeth thrombectomi Cymru gyfan."