Caerdydd yn ymddeol crys rhif saith er cof am Peter Whittingham

27/07/2022
Peter Whittingham

Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi ymddeol crys rhif saith er cof am un o chwaraewyr enwocaf y tîm, Peter Whittingham. 

Bu farw Whittingham ym mis Mawrth 2020 yn 35 oed ar ôl cwympo a tharo ei ben mewn tafarn yn Y Barri. 

Mae'r chwaraewr canol cae yn cael ei ystyried fel un o'r goreuon i wisgo'r crys ar gyfer yr Adar Gleision. 

Chwaraeodd dros 450 gêm wrth iddo dreulio degawd yn y brifddinas, gan sgorio 96 gôl. 

Bu'n rhan o'r garfan i ennill dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair am y tro cyntaf erioed yn 2013 ac mae'n cael ei gofio am ei dalent i sgorio o giciau cosb. 

Cafodd y penderfyniad i ymddeol y rhif er anrhydedd i Whittingham ei gadarnhau wrth i Gaerdydd gyhoeddi rhifau'r garfan cyn dechrau'r tymor nesaf. 

Fe fydd y clwb yn cynnal gêm i goffáu Whittingham yn hwyrach yn y flwyddyn. 

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.