Rhybudd am drafferthion teithio wrth i weithwyr rheilffyrdd streicio
Rhybudd am drafferthion teithio wrth i weithwyr rheilffyrdd streicio
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio teithwyr i osgoi defnyddio trenau ddydd Mercher wrth i weithwyr rheilffyrdd ar hyd y Deyrnas Unedig fynd ar streic.
Mae Undeb yr RMT yn cynnal y gweithredu diwydiannol yn dilyn anghydfod gyda Network Rail dros gyflogau ac amodau gwaith staff.
Er nad oes anghydfod rhwng yr undeb a Thrafnidiaeth Cymru yn uniongyrchol, nid oes modd cynnal gwasanaethau gan mai Network Rail sy'n gyfrifol am seilwaith y rheilffyrdd.
Dyma'r diwrnod cyntaf o streiciau sydd wedi eu trefnu ar gyfer yr wythnosau nesaf, gyda gweithredu ddiwydiannol hefyd wedi ei gynllunio ar gyfer 18 a 20 o Awst gan yr undeb.
Mae'r undeb eisoes wedi streicio fis diwethaf.
Daw'r streic wedi i'r RMT wrthod cynnig diweddaraf Network Rail am gynnydd o 4% mewn cyflogau.
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Mick Lynch, fod y cynnig yn un "pitw" ac yn cynrychioli gostyngiad mewn tâl wrth ystyried cyfradd chwyddiant.
Yn sgil y streic, dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddai'r rhan fwyaf o wasanaethau trenau yng Nghymru yn cael eu hatal am y dydd.
Dim ond gwasanaethau cyfyngedig o Gaerdydd i Gasnewydd a rhwng Caerdydd a'r cymoedd bydd yn rhedeg ddydd Mercher.
Bydd y trenau'n rhedeg unwaith yr awr rhwng 07:30 a 18:30, ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio y bydd gwasanaethau yn hynod o brysur.
Mae yna hefyd rybuddion am oedi dydd Iau yn dilyn y streic, gyda disgwyl i wasanaethau fod yn brysurach nag arfer.