Newyddion S4C

Apwyntiadau deintyddol i newid i fod yn rhai blynyddol

27/07/2022
Deintydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bydd apwyntiadau deintyddol yn newid o bob chwe mis i ymweliadau blynyddol.

Daw'r penderfyniad wrth i'r llywodraeth geisio gwella mynediad pobl at gael gofal deintyddol gan y GIG.

Bydd deintyddion yn gallu derbyn hyd at 112,000 o gleifion newydd y flwyddyn, wrth i gontractau deintyddol newid o alw pobl yn ôl i gael archwiliadau bob chwe mis i rai blynyddol.

Dros y ddau ddegawd diwethaf, cafwyd gostyngiad cyson mewn pydredd dannedd. Erbyn hyn, mae mwy o oedolion yn cadw eu dannedd a chafwyd gostyngiad cyson yn nifer y bobl sydd â dannedd gosod.

Wrth i'r amseroedd newid, bydd gan bob claf gynllun gofal personol, a bydd deintyddion yn cynghori cleifion ynglŷn â pha mor aml y mae angen iddynt gael eu gweld.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd am recriwtio mwy o ddeintyddion a staff deintyddol drwy gynnig cymorth fel y gall myfyrwyr ddod o hyd i leoliadau gyda phractisau yng Nghymru, a thrwy ddatblygu trefniadau gweithio newydd i ddenu mwy o ddeintyddion i weithio yma.

Dywedodd Prif Swyddog Deintyddol newydd Cymru, Andrew Dickenson: “Does dim angen i’r mwyafrif o oedolion weld eu deintydd bob chwe mis bellach. 

"Drwy symud oddi wrth archwiliadau sy’n aml yn ddiangen, bydd gan ddeintyddion fwy o amser i ddarparu’r gofal personol ac wedi’i deilwra sydd ei angen ar bobl, a bydd yn haws derbyn cleifion newydd i gael eu trin gan y GIG.”

Wrth ymateb i'r cynllun newydd, dywedodd y Gweinidog Cysgodol dros Iechyd, Russell George AS ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Dwi'n croesawu’r newid i ymweliadau blynyddol ond dwi ddim yn credu bydd hynny'n helpu'r ôl-groniad yn apwyntiadau'r GIG.

"Rydym wedi dweud ers misoedd bod yr agwedd hon tuag at ddeintyddiaeth...yn mynd i arwain at bobl yn gorfod talu miloedd i gael triniaeth breifat neu rwygo eu dannedd eu hunain allan."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.