Dyn 89 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Ddinbych
26/07/2022
Mae dyn 89 oed o Sir Y Fflint wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A494 yn Sir Ddinbych dros y penwythnos.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cerbydau Citroën C4 a Mercedes A200 ger pentref Llanbedr Dyffryn-Clwyd yn fuan wedi 13:00 ddydd Sadwrn.
Ar ôl cael ei gludo i ysbyty yn Stoke, bu farw'r dyn a oedd yn gyrru'r Citroën o'i anafiadau, yn ystod oriau man fore Mawrth.
Mae'r fenyw a oedd yn teithio gydag e, bellach wedi gadael yr ysbyty.
Llun: Google Streetview