Newyddion S4C

Pwysig profi 'teimladau caled' yn sgil galar

27/07/2022

Pwysig profi 'teimladau caled' yn sgil galar

Mae'n bwysig profi 'teimladau caled' yn sgil galar, yn ôl un sydd wedi wynebu blwyddyn heriol ac anodd. 

Fe gollodd Cerys Pinkman o Gastell Newydd Emlyn ei rhieni o fewn mis i'w gilydd y llynedd, ac mae rhannu ei phrofiad o alaru wedi bod yn therapi yn ei hun.

Ysgrifennodd Cerys flog ar wefan Meddwl.org ym mis Gorffennaf gan rannu ei phrofiad, ac roedd siarad am ei theimladau yn agored yn hynod o bwysig iddi. 

"Colles i mam a dad blwyddyn dwetha o fewn mis i'w gilydd, a ma fe'n rwbeth galed i golli un rhiant ond i golli dau, ma fe yn eithaf traumatic," meddai Cerys.

"Ar ôl i'n rhieni i farw, dechreues i swydd newydd a wedd boss fi 'di annog fi i sgwennu amdano fe."

Fe wnaeth rheolwr Cerys ei hannog i siarad gyda gwefan Meddwl.org i weld os y byddan nhw'n ei gadael iddi siarad yn agored am ei phrofiad er mwyn gweld os oedd rhywun yn gallu uniaethu a dangos "bod nhw ddim wrth ei hunain."

'Agor sgwrs i topics eitha galed'

Yn ôl Cerys, mae Meddwl yn gallu torri'r stigma a chynnig platfform i "agor sgwrs i topics eitha galed i siarad am a beth y'n ni'n gallu ei wneud yn y gweithle a hefyd yn ein bywyd personol i gwella y symptomau a sut i drin dy hunan ar ddyddie fwy galed."

Mae Cerys wedi astudio gradd a chwrs meistr yn yr iaith Saesneg, ac roedd ysgrifennu am ei theimladau yn y Gymraeg am y tro cyntaf yn heriol, ond yn iach iddi.

"Pan ti'n neud cymint yn yr iaith Saesneg, ti ddim 100% yn mynd i fod mor gyfforddus yn sgwennu yn y Gymraeg a meddwl os ydy Cymraeg ti'n ddigon graenus.

"Fi'n credu na beth o'n i 'di penderfynu oedd o'n i ddim yn mynd i becso os o'dd Cymraeg fi'n raenus, a 'we ni'n mynd i sgwennu fel bo' fi'n siarad fel tafodiaith a slang a lot o Wenglish.

Er mor anodd ydy siarad am alar, mae siarad am y teimladau hyn yn hynod o bwysig yn ôl Cerys. 

Pwysig teimlo teimladau galed'

"Ma' fe'n bwysig i teimlo teimladau galed a dwi'n gweud rhywbeth yn y blog fel 'pain demands to be felt', ond ma'n gwir a ma' 'na gwirder yn y geirie ond ma raid ti teimlo'r pethe neu os ti'n suppressio fe, deith e lan yn wath."

Roedd Cerys wrthi yn gorffen ei gradd meistr pan bu farw ei rhieni, ac yn sgil beth oedd yn digwydd yn ei bywyd personol, fe gollodd hi ei chariad at ysgrifennu ychydig, ond bob yn dipyn, mae ei hangerdd hi yn dechrau dychwelyd. 

Yn ôl Cerys, mae gallu ysgrifennu blog am alar yn y Gymraeg yn rhywbeth iach a phositif yn y pen draw gan ei fod yn "teimlo yn fwy fel cymuned pan ti'n sgwennu yn y Gymrag.

"Ma hwn yn ffordd o therapi a ma hwnna yn'i hunan yn bwysig a 'sdim pawb yn gyfforddus yn siarad Saesneg."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.