Arglwydd Trimble, un o benseiri cytundeb Gwener y Groglith wedi marw
25/07/2022
Mae cyn Weinidog Cyntaf Gogledd Iwerddon a chyn arweinydd Plaid Unoliaethol Ulster, yr Arglwydd Trimble wedi marw yn 77 oed.
Roedd David Trimble yn cael ei ystyried yn un o benseiri Cytundeb Heddwch Gwener Y Groglith yn 1998.
Gyda John Hume o blaid yr SDLP, derbyniodd Wobr Heddwch Nobel am ei ymdrechion yn ceisio sicrhau heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Plaid yr UUP :
"Gyda thristwch mawr y mae teulu yr Arglwydd Trimble yn cyhoeddi ei farwolaeth, yn dawel yn gynharach heddiw, wedi salwch byr"
Roedd yn arweinydd Plaid Unoliaethol Ulster rhwng 1995 a 2005
Darllenwch fwy yma