Newyddion S4C

Apêl wedi i ferch 17 oed farw mewn gwrthdrawiad yng Nghaerffili 

24/07/2022
Heddlu
Heddlu

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio yn dilyn marwolaeth merch 17 oed mewn gwrthdrawiad yng Nghaerffili. 

Digwyddodd y gwrthdrawiad un cerbyd am tua 5:05 ar ffordd Brook Row yn Fochriw fore Sul. 

Roedd y ferch 17 oed o Aberpennar yn teithio mewn cerbyd Skoda Octavia beige. Bu farw yn y fan a’r lle. 

Mae gyrrwr y car, dyn 21 o Rhymni wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a gyrru o dan ddylanwad alcohol. Mae'n parhau yn y ddalfa. 

Mae ffordd Brook Row ar gau i draffig ar hyn o bryd.

Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu yn syth gan ddefnyddio'r cyfeirnod: 2200247542. 

Mae'r heddlu hefyd yn gofyn i glywed gan unrhyw oedd yn ardaloedd Bargoed, Deri a Fochriw rhwng 4.30 a 5.10 fore ddydd Sul. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.