Ymosodiad Rwsia ar borthladd Odesa'n gwmwl dros gytundeb allforio

Mae lluoedd Rwsia wedi ymosod ar borthladd Odesa yn Wcráin ddydd Sadwrn.
Daw hyn lai na 24 awr ar ôl i'r ddwy wlad arwyddo cytundeb fyddai'n galluogi grawn i gael ei allforio o borthladdoedd yn y Môr Du.
Mae Wcráin yn rhan allweddol o'r gadwyn fwyd rhyngwladol, ac yn gyfrifol am gynhyrchu 40% o wenith y byd.
Dywed yr awdurdodau yn Wcráin fod Rwsia wedi tanio pedwar taflegryn Cruise at y porthladd, ond bod dau wedi eu saethu i'r ddaear cyn cyrraedd eu targedau.
Fe laniodd y ddau arall ar adeiladau yn y porthladd.
Darllenwch ragor yma.