Dim ymchwiliad pellach i elusen y Tywysog Charles

Ni fydd y Comisiwn Elusennau yn ymchwilio ymhellach i un o elusennau'r Tywysog Charles a dderbyniodd roddion gwerth £2.5m mewn arian parod.
Cafodd yr arian ei roi gan Sheikh Hamad bin Jassim o Qatar i'r Prince of Wales's Charitable Foundation rhwng 2011 a 2015.
Yn ôl honiadau, cafodd yr arian parod ei drosglwyddo mewn amryw o fagiau a siwtcesys.
Er hyn, dywedodd y Comisiwn Elusennau fod yr elusen wedi dilyn y rheolau ac felly "does dim pryderon" ynglŷn â sut mae'r elusen yn cael ei rheoli.
Dywedodd llefarydd ar ran y teulu brenhinol na fydd rhoddion o'r fath yn cael eu derbyn rhagor.
Darllenwch fwy yma.