Newyddion S4C

Caniatâd i adeiladu gorsaf niwclear newydd

Reuters 20/07/2022
Sizewell C

Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi caniatâd i adeiladu gorsaf niwclear Sizewell C yn sir Suffolk.

Mae disgwyl i’r prosiect, fydd yn cael ei ariannu gan gwmni Ffrengig EDF, gostio tua £20bn.

Dywedodd y cwmni y bydd disgwyl i'r atomfa newydd gynhyrchu tua 7% o anghenion trydan y DU ac yn gweithredu am 60 mlynedd.

Dywedodd ymgyrchwyr Stop Sizewell C y byddan nhw yn “edrych yn fanwl ar apelio’r penderfyniad.”

Fe fydd yr orsaf newydd yn cael ei lleoli yn agos i orsaf Sizewell B, sy’n dal i gynhyrchu trydan, a Sizwell A sydd wedi ei dadgomisiynu.

Darllenwch fwy yma.

Llun: EDF Energy

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.