Newyddion S4C

Y Seintiau Newydd

Y Seintiau Newydd a'r Drenewydd i herio'u gwrthwynebwyr yn Ewrop

NS4C 21/07/2022

Fe fydd y Seintiau Newydd a'r Drenewydd yn herio'u gwrthwynebwyr yng nghystadleuaeth Cyngres Ewropa nos Iau.

Dyma'r unig ddau dîm o Gymru ar ôl yn y gystadleuaeth wedi i'r Bala golli ar ôl ciciau o'r smotyn yn erbyn Sligo Rovers.

Fe fydd y Seintiau Newydd yn teithio i Wlad yr Iâ ar gyfer y cymal cyntaf yn erbyn Víkingur, tra bydd y Drenewydd yn chwarae gartref ar Barc Latham yn erbyn Spartak Trnava o Slofacia.

Ail gyfle i'r Seintiau

Bydd y Seintiau yn teitho i Wlad yr Iâ ar ôl iddyn nhw golli yng ngemau rhagbrofol Cynghrair Pencampwyr Ewrop yn erbyn Linfield.

Enillodd y Seintiau'r cymal cyntaf, ond colli oedd yr hanes yn yr ail gymal o 2-0 yn amser ychwanegol

Ond mae ganddyn nhw gyfle i gyrraedd trydedd rownd ragbrofol Cyngres Ewropa os byddan nhw'n curo Víkingur. 

Fe fydd carfan Anthony Limbrick yn gobeithio gallu sicrhau gêm gyfartal er mwyn bod mewn safle da cyn yr ail gymal yn Neuadd y Parc.

Collodd Víkingur 6-5 yn erbyn pencampwyr Sweden Malmö FF yn rownd gyntaf Cynghrair Pencampwyr Ewrop.

Fe fydd y Seintiau yn chwarae Lech Poznan o Wlad Pwyl neu Dinamo Batumi o Georgia os ydyn nhw'n cyrraedd y rownd nesaf.

Her i'r Drenewydd

Mae'r Drenewydd yn chwarae'r gêm nos Iau ar ôl curo Havnar Bóltfelag o Ynysoedd Ffaro 4-2 ar giciau o'r smotyn.

Er iddynt golli'r cymal cyntaf, roedd carfan Chris Hughes wedi mynd ar y blaen yn yr ail gymal cyn gôl hwyr gan yr ymwelwyr.

Sgoriodd Lifumpa Mwandwe y gic o'r smotyn i sicrhau'r fuddugoliaeth, cyn iddo arwyddo i Halifax Wanderers yng Nghanada.

Mae'r Robiniaid yn herio Spartak Trnava o Slofacia, sydd wedi cyrraedd y rownd hon mewn naw allan o'r 12 tymor diwethaf.

Fe fydd y ddau gymal yn her i'r Robiniaid, ond fe fydd y tîm yn llawn hyder yn dilyn canlyniadau ynghynt yn y gystadleuaeth.

Fe fydd y Robiniaid yn chwarae Rakó Częstochowa o Wlad Pwyl neu Astana o Kazakhstan os ydynt yn cyrraedd y rownd nesaf.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.