Newyddion S4C

Cofnodi'r tymheredd uchaf erioed yng Nghymru

18/07/2022

Cofnodi'r tymheredd uchaf erioed yng Nghymru

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cofnodi'r tymheredd uchaf erioed yng Nghymru ddydd Llun - wrth i'r tymheredd gyrraedd 37.1 gradd Celsius yn Sir y Fflint.

Cafodd y record newydd ei chofnodi ym mhentref Penarlâg.

Nid dyma'r tro gyntaf i Benarlâg dorri record tymheredd Cymru. Cyn dydd Llun, roedd y pentref yn dal y record flaenorol ar gyfer y tymheredd uchaf yng Nghymru ar ôl cofnodi 35.2 gradd nôl yn 1990. 

Daw'r record newydd wedi i rybudd oren am dywydd poeth eithafol ddod i rym yng Nghymru wrth i'r tymheredd barhau i godi ar draws y DU. 

Daeth y rhybudd oren am dywydd poeth eithafol gan y Swyddfa Dywydd i rym rhwng 00:00 ddydd Sul a bydd yn parhau nes 23:59 ddydd Mawrth.

Mae pobl wedi bod yn heidio i draethau, llynnoedd ac afonydd ar hyd a lled Cymru ddydd Llun, mewn ymdrech i geisio lleddfu ychydig ar effeithiau'r gwres.

Am y tro cyntaf erioed, mae yna rybudd coch am dywydd poeth eithafol mewn mannau o Loegr ddydd Llun, gyda disgwyl i'r tymheredd gyrraedd 40C. 

Mae pobl yn cael eu hannog i aros tu fewn ac i yfed digon o ddŵr. 

'Teithiau hanfodol yn unig'

Mae Trafnidiaeth Cymru eisioes wedi cynghori cwsmeriaid yng Nghymru i wneud teithiau hanfodol yn unig a na ddylai unrhyw un yn rhanbarth y Gororau deithio rhwng 18 a 19 Gorffennaf oherwydd y tywydd. 

Er mwyn osgoi gorlenwi, bydd Trafnidiaeth Cymru yn ceisio darparu capasiti ychwanegol ar wasanaethau allweddol ond mae disgwyl i'r holl wasanaethau fod yn brysur yn sgil y Sioe Frenhinol a seremonïau graddio yng Nghaerdydd ac Abertawe. 

Bydd tocynnau ar gyfer dydd Llun 18 a dydd Mawrth 19 o Orffennaf hefyd yn ddilys tan ddydd Gwener i'w defnyddio. 

Mae'r Swyddfa Dywydd eisioes wedi rhybuddio ei bod yn debygol y bydd llawer mwy o bobl yn ymweld ag ardaloedd arfordirol, llynnoedd ac afonydd "gan arwain at risg uwch o ddigwyddiadau diogelwch dŵr."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.