Newyddion S4C

Enillwyr Ras yr Wyddfa

16/07/2022
Ras yr Wyddfa

Roedd Ras Yr Wyddfa yn dychwelyd ddydd Sadwrn ar ôl gorfod gohirio am dair blynedd yn sgil y pandemig. 

Fe wnaeth 600 o redwyr ymgynnull wrth droed Yr Wyddfa cyn gwneud eu ffordd i gopa uchaf Cymru a Lloegr mewn ras 10 milltir o hyd.

Ross Golan o’r Alban enillodd ras y dynion mewn amser o un awr a naw eiliad.

Hannah Russell oedd yn fuddugol yn ras y merched mewn amser o un awr 18 eiliad.

Roedd y merched wedi cyrraedd y copa mewn amser o 51 munud 17 eiliad.

Roedd y rhedwyr wedi cael cyngor i addasu eu dull o redeg oherwydd y tywydd poeth.

Llun: Twitter/Ras yr Wyddfa

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.