Dyddiadur Kyiv: Byw dan gysgod bomio dyddiol
Dyddiadur Kyiv: Byw dan gysgod bomio dyddiol
Mae Anastasiia yn 22 oed ac yn byw mewn fflat yn Kyiv.
Mae Newyddion S4C wedi bod yn dilyn ei thaith ers dyddiau cynnar ymosodiad Rwsia ar y wlad.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae Anastasiia wedi cofnodi'r sefyllfa gyfredol ym mhrifddinas Wcráin drwy ffurf dyddiadur fideo.
"Helo bawb, fy enw i yw Anastasiia ac rydw i o Kyiv ac rwyf am ddweud ychydig yn fwy wrthoch chi am sut rwyf i'n treulio fy niwrnodau yma.
"Nid oedd bore 'ma yn fore tawel yn anffodus, roedd seiren ymosodiad o'r awyr am 3 yn y bore felly roedd yn rhaid i mi ddeffro'n gynnar iawn ac o 3 tan 5 roedd rhybudd ymosodiad o'r awyr.
"Ar ôl hynny, o 5 tan 7 roedd seiren arall a rhybudd am ymosodiad arall o'r awyr, felly doedd gen i ddim llawer o amser i gysgu heddiw.
"Nawr mae'n 10 y bore, fe gysgais am tua dwy awr wedi imi ddychwelyd o'r gysgodfa fomiau."
'Rhai o'r silffoedd yn wag'
"Rydw i adref o fod yn cerdded ac fe brynais rhai blodau achos mae fy ffrind yn cael ei phen-blwydd yfory felly roeddwn i wir am godi ei chalon rywsut.
"Mae'r rhan fwyaf o archfarchnadoedd yn Kyiv ar agor felly mae modd i chi brynu bwyd, gallwch chi brynu pethau eraill sydd angen arnoch chi.
"Mae rhai o'r silffoedd yn wag felly pan rydych chi'n mynd i'r archfarchnad gallwch weld fod hanner y silffoedd yn llawn ac mae hanner y silffoedd yn wag iawn ond yn gyffredinol mae hi'n bosib cael gafael yn y rhan fwyaf o bethau sydd angen arnoch.
"Mae'r rhan fwyaf o archfarchnadoedd yn cau'n gynnar iawn oherwydd y cyrffyw. Mae'r cyrffyw'n dechrau bob dydd am 11 o'r gloch y nos ac yn parhau tan 5 y bore."
'Cysgodi rhag y ffrwydrad'
"Bore da. Mae'n 4 o'r gloch y bore ac roedd seiren ymosodiad o'r awyr felly gwnes i ddeffro i fynd i'r gysgodfa fomiau.
"Weithiau, gallwch chi fynd i'r gysgodfa fomiau, weithiau gallwch guddio rhywle yn eich fflat lle mae 'na ddwy wal rhyngoch chi a'r tu allan.
"Felly'r syniad yw'r canlynol: bydd y wal gyntaf yn cysgodi rhag y ffrwydrad a bydd yr ail yn cysgodi rhag y saethu.
"Felly os ydych chi tu ôl i'r ail un, rydych chi'n ddiogel ac rwyf yn fy nghyntedd yn aros i'r larwm glirio."