Carcharu rheolwr cwmni ailgylchu am ddynladdiad gweithiwr

Mae rheolwr cwmni ailgylchu yn Sir Conwy wedi cael ei garcharu am naw mlynedd am ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol wedi i weithiwr 60 oed waedu i farwolaeth.
Roedd Stephen Jones yn rheolwr ar Recycling Cymru Ltd ym Mae Cinmel.
Fe'i dyfarwnyd yn euog o achosi marwolaeth Norman Butler yn 2017 ar ôl iddo ddisgyn i mewn i beiriant ailgylchu oedd yn "barod i ladd" yn ôl y barnwr.
Cafodd y cwmni ddirwy o £120,000 am fethu dilyn rheolau iechyd a diogelwch ar y safle.
Dywedodd y barnwr nad oedd Mr Butler wedi derbyn yr hyfforddiant cywir a bod Mr Jones yn blaenoriaethu gwneud yr elw mwyaf posib dros fesurau iechyd a diogelwch.
Darllenwch fwy yma.