Achosion Covid-19 yn codi mwy na 20% mewn wythnos yng Nghymru
15/07/2022
Mae nifer yr achosion o Covid-19 yng Nghymru wedi codi mwy na 20% mewn wythnos yng Nghymru, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Mae amcangyfrif y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn darogan fod 183,500 o bobl wedi profi'n bositif am Covid-19 yn yr wythnos hyd at 30 Mehefin.
Mae hyn yn gyfystyr â 6.04% o'r boblogaeth, neu o gwmpas un ymhob 17 o bobl.
Y gred yw bod y cynnydd yn cael ei achosi gan amrywiolion Omicron BA.4 a BA.5.
Mae nifer yr achosion wedi bod ar gynnydd ar draws y Deyrnas Unedig.
Mae gan un o bob 19 o bobl yn Lloegr Covid-19, un ymhob 17 o bobl yng Ngogledd Iwerddon a thua un o bob 16 person yn Yr Alban.