Newyddion S4C

Galwadau i newid polisïau i amddiffyn mannau gwyrdd yn well

18/07/2022

Galwadau i newid polisïau i amddiffyn mannau gwyrdd yn well

Mae grŵp cymunedol sydd yn gweithio i amddiffyn ei barc lleol yn galw ar Gyngor Caerdydd i newid ei bolisïau cynllunio er mwyn diogelu mannau gwyrdd. 

Cafodd Cyfeillion Parc Hailey, sydd wedi'i leoli yng ngogledd Caerdydd, ei sefydlu i sicrhau fod gan bobl leol lais yn nyfodol eu parc. 

Maen nhw'n pryderu ynglŷn ag effaith bosib y gall datblygiadau newydd yn y parc gael ar dirwedd a bioamrywiaeth. Maent ynhonni bod nifer o feysydd gwyrdd yng Nghaerdydd mewn sefyllfa debyg. 

Dywedodd Cyngor Caerdydd nad oes modd gwneud sylw ar gais cynllunio tan fod penderfyniad wedi’i wneud gan yr Awdurdod Cynllunio.

'Ardaloedd gwyrdd o dan fygythaid'

Yn ôl Cyfeillion Parc Hailey, mae yna nifer o ddatblygiadau sydd yn bygwth dyfodol y parc ar hyn o bryd. 

Fel rhan o ddatblygiad tai newydd gerllaw, mae yna gynlluniau i adeiladu gorsaf bwmpio dŵr gwastraff ger caeau rygbi'r parc. 

Yn ogystal â hyn, mae clwb rygbi lleol wedi gwneud cais i logi'r tir o amgylch yr ystafelloedd newid yn y parc, sydd ar agor i'r holl gymuned. Yn ôl y grŵp, nid oedd y gymuned yn ymwybodol o'r cais yma cyn iddo gael ei hysbysebu yn y papur newydd. 

Mae Russell Todd yn gadeirydd Cyfeillion Parc Hailey ac yn dweud bod y gymuned gyfan yn pryderu am effaith y datblygiadau ar y parc a bod parciau eraill yng Nghaerdydd mewn sefyllfa debyg. 

"Mae mesydd gwyrdd, ardaloedd gwyrdd, o dan fygythiad i fod yn onest," meddai Russell. 

"Efallai tai, efallai cyfleusterau dŵr, datblygiadau sydd ddim yn cydymdeimlo gyda'r tirwedd." 

Image
Russell Todd
Mae Russell Todd yn dweud bod rhaid amddiffyn meysydd gwyrdd yn well

"Pan ti'n codi proffil yr ymgyrch fel ni wedi neud ar gyfryngau cymdeithasol, mae pobl eraill yn y ddinas yn cysylltu â ni." 

"Mae nhw'n dweud bod hwn yn debyg i ni, gyda'r maes gwyrdd neu parc lleol sydd gyda nhw."

Ychwanegodd Russell bod y parc yn "drysor" i'r gymuned leol, ffaith gafodd ei bwysleisio yn ystod y pandemig. 

Dywedodd ei fod yn "siomedig" ei fod yn gorfod ymgyrchu dros y parc ac ei fod yn lle hynny eisiau gweld polisïau cynllunio Cyngor Caerdydd yn newid. 

Mae am i ddiogelwch mannau gwyrdd fod yn rhan allweddol o bolisi "holistig" o gynllunio, gan sicrhau nad yw datblygiadau newydd yn peryglu llefydd fel Parc Hailey. 

"Ry'n ni eisiau nhw edrych ar barciau ar y cyfan, a meysydd gwyrdd ar y cyfan," meddai. 

"Felly dim jyst yn edrych ar effaith eitha mawr ym Mharc Hailey, ond i edrych ar efallai mae lot o geisiadau cynllunio fel hyn sydd yn effeithio ar lawer iawn o barciau.

"Ac i edrych ar bethau yn eitha holistig ledled y ddinas."  

Image
Parc
Yn ôl Cyfeillion Parc Hailey, mae'r parc yn lle pwysig o fewn y gymuned

Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Caerdydd: "Ni all y cyngor roi sylw ar gais cynllunio byw tan fod penderfyniad wedi’i wneud gan yr Awdurdod Cynllunio.

"Mae’r cais yn dal i fod ar agor, felly gall pobl wneud sylwadau ar y cais i’r cyngor o hyd." 

Er gwaethaf y sialensiau mae Parc Hailey yn ei wynebu, mae Russell yn teimlo bod y gymuned wedi dod yn agosach yn sgil ymgyrchu dros y parc lleol. 

"Mae lot o bobl yn neud lot o amser, mae nhw'n buddsoddi lot o egni yn y pethau sydd yn digwydd fan hyn." 

"Mae jyst yn hyfryd i weld pan mae'r pobl yn lleol yn dod allan i helpu ni, cefnogi ni." 

"Mae hwnna'n jyst yn ail-annog yr holl ymdrech." 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.