Newyddion S4C

Stadium gwag yn Wcrain

Cysgod rhyfel dros dymor pêl-droed newydd yn Wcráin

NS4C 13/07/2022

Mae Gweinidog Chwaraeon Wcráin, Vadim Gutzeit wedi cadarnhau bydd pêl-droed yn dychwelyd i'r wlad ar 23 Awst. 

Mewn datganiad ar Facebook, cyhoeddodd Mr Gutzeit bydd gemau yn ail-gychwyn ar ddiwrnod y Faner Genedlaethol yn Wcráin, gyda chyfyngiadau mewn lle er mwyn sicrhau bydd y gemau mor ddiogel â phosib.

Bydd y gynghrair yn cynnwys 16 tîm, a dyma'r tro cyntaf i bêl-droed gael ei chwarae yn y wlad ers ymosodiad Rwsia ym mis Chwefror.

I sicrhau bydd y gemau yn ddiogel, bydd presenoldeb milwrol ymhob gêm yn ogystal â lloches fomio i'r chwaraewyr, hyfforddwyr a swyddogion eu defnyddio os bydd seiren fomio yn canu.

Er y cynlluniau, mae'r rhyfel yn parhau mewn nifer o ddinasoedd yn Wcráin, ond mae'r Gweinidog Addysg yn mynnu na ellir atal chwaraeon y wlad:

"Er gwaethaf popeth bydd chwaraeon Wcráin a'r parodrwydd i ennill ar bob ffrynt methu cael ei atal. Rydym yn sefyll yn gadarn ar y ffrynt chwaraeon. Rydym yn profi yn gyson bod Wcrániaid yn genedl o enillwyr."

Trefn y gemau

Nid yw cynlluniau am leoliad y gemau a sut yn union bydd y gynghrair yn gweithio wedi eu penderfynu eto.

Bydd Dinamo Kyiv yn chwarae eu gêm gartref yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop yn erbyn Fenerbahçe yng Ngwlad Pwyl, ac mae stadiymau timau FC Mariupol ac FC Desna wedi cael eu dinistrio.

Mae nifer o dimau wedi bod yn ymarfer dramor i baratoi am y tymor o ganlyniad i fomio gan Rwsia. Mae Dynamo Kyiv a Metalist Kharkiv yn ymarfer yn y Swistir a Bwlgaria.

Mae Cyfarwyddwr Gweithredol pêl-droed Wcráin Ievgen Dykyi wedi gofyn am gymorth ariannol gan gynghreiriau Ewrop, gan ddweud na fydd yn bosib i Wcráin gynnal y gynghrair heb y cymorth hwn.

Bydd rhai timau yn methu ymuno â'r gynghrair eleni o ganlyniad i broblemau ariannol. Ni fydd FC Desna yn cymryd rhan ym mis Awst gan fod eu stadiwm wedi ei dinistrio ac mae bomio yn ninas Chernihiv, lle mae'r clwb yn chwarae.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.