Ymchwiliad i dân mewn maes parcio aml-lawr yn Sir Benfro
13/07/2022
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i dân mewn maes parcio aml-lawr yn Sir Benfro.
Fe ddigwyddodd y tân mewn maes parcio ar Ffordd Cartlett yn Hwlffordd nos Fawrth.
Nid oedd y maes parcio'n cael ei ddefnyddio gan ei fod wedi ei gau er mwyn creu cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus newydd yn y dref.
Ar hyn o bryd, mae'r tân yn cael ei drin fel un amheus.
Mae'r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod DP-20220712-408.