Syr Tom Jones yn gwadu ei fod wedi llewygu cyn cyngerdd yn Budapest

Mae Syr Tom Jones wedi gwadu ei fod wedi llewygu cyn gorfod gohirio un o'i gyngherddau yn Budapest.
Roedd amheuon am ei iechyd wedi iddo orfod canslo'r cyngerdd ar y funud olaf ac aildrefnu gan ei fod yn sâl.
Mewn datganiad, dywedodd y canwr ei fod wedi teithio o'r DU i Budapest a "deffro gyda dolur gwddf".
"Daeth arbenigwr i'm gweld a dweud bod gen i Laryngitis, ac fe wnaeth fy nghynghori yn gryf i ohirio'r sioe ac i gymryd meddyginiaeth a seibiant i'r llais.
"Nes i DDIM 'llewygu' ar unrhyw adeg, sibrydion ydy'r rheiny.
"Gobeithio bydd y llid yn gwella a dwi'n edrych ymlaen at barhau gyda fy nhaith haf hyfryd yn fuan."