Aflonyddu rhywiol mewn ysgolion 'wedi'i normaleiddio’ medd adroddiad
Mae aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn cael ei ystyried yn “ymddygiad arferol”, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau’r Senedd.
Mae’r adroddiad yn nodi fod aflonyddu rhywiol mewn ysgolion yn gyffredin ac yn effeithio ar blant mor ifanc â 9 oed .
Roedd ffigyrau diweddar gan y corff arolygu ysgolion, Estyn, yn dangos fod 61% o ddisgyblion benywaidd a 29% o ddisgyblion gwrywaidd wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol.
Ond mae adroddiad y Senedd yn dweud bod y gwir sefyllfa’n debygol o fod gryn dipyn yn waeth nag y mae’r ffigyrau hynny’n ei awgrymu.
Clywodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd dystiolaeth bod aflonyddu ymhlith disgyblion mor gyffredin, mae’n aml yn cael ei fethu neu’n cael ei ystyried yn normal gan ysgolion.
Mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ymgyrch genedlaethol i dargedu nid yn unig dysgwyr, ond eu teuluoedd a staff ysgolion hefyd, i godi ymwybyddiaeth o ymddygiad yr ystyrir ei fod yn aflonyddu rhywiol a grymuso disgyblion i dynnu sylw at ymddygiad o’r fath a’u sicrhau y bydd yr ysgol yn cymryd y camau priodol.
Mae'r adroddiad yn gwneud cyfanswm o 24 o argymhellion i wneud mwy i ddiogelu plant a phobl ifanc.
'Brawychus o gyffredin'
Dywedodd Jayne Bryant AS, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: “Mae aflonyddu rhywiol ymhlith dysgwyr yn frawychus o gyffredin. Nid yw llawer o ysgolion yn gwybod sut i ymateb i aflonyddu rhywiol ac, weithiau, nid ydynt yn oed yn adnabod arwyddion aflonyddu rhywiol.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru rymuso athrawon, rhieni a disgyblion i fod yn gefnogol ac i sylweddoli pryd mae aflonyddu rhywiol yn digwydd. Mae elfen o 'dyna sut mae bechgyn yn ymddwyn’ neu 'dim ond herian mae e' ac, a bod yn onest, mae angen i'r agwedd hon newid. Bydd y canlyniadau, fel arall, yn enbyd.
“Mae effaith aflonyddu rhywiol ar rai dysgwyr mor ddifrifol, mae’n effeithio nid yn unig ar eu dysgu, ond gall hefyd effeithio ar eu perthynas ag eraill, eu hiechyd meddwl, eu gobeithion at y dyfodol, a gall – yn yr achosion mwyaf difrifol – arwain at hunan-niwed a hunanladdiad.
“Rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru wneud cryn dipyn yn yr adroddiad hwn; nid yw ein pobl ifanc yn haeddu dim llai.”
Mae’r Pwyllgor hefyd yn argymell bod Estyn yn ystyried sut mae ysgolion yn cofnodi ac yn ymateb i ddigwyddiadau, gan danlinellu y dylid rhoi sylw penodol i hyn yn ystod arolygiadau ysgol.
Mae argymhelliadau’r Pwyllgor yn cydnabod nad cyfrifoldeb ysgolion yn unig yw ymdrin â phroblem aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.
Maent yn derbyn bod y rhesymau am ymddygiad o'r fath wedi’u gwreiddio’n ddwfn mewn agweddau cymdeithasol, a bod pornograffi, y cyfryngau cymdeithasol ac, yn ystod y blynyddoedd diwethaf, pandemig COVD-19, yn dwysáu’r broblem. Ond mae gan ysgolion yr adnoddau i ganiatáu iddynt arwain y frwydr yn erbyn yr agweddau cymdeithasol hyn.
'Croesawu'r argymhellion'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae unrhyw fath o aflonyddu rhywiol yn gwbl annerbyniol. Mae diogelu plant yn ein hysgolion yn flaenoriaeth.
"Byddwn yn ystyried argymhellion yr adroddiad ac yn ymateb maes o law.
"O fis Medi ymlaen, bydd Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) sy'n briodol i ddatblygiad yn cael ei haddysgu i bob plentyn ym mhob ysgol gynradd yng Nghymru. Bydd ACRh yn helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o gydberthnasau iach, yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch."
Dywedodd llefarydd ar ran Estyn: “Trafodwyd y mater o ba mor dda y mae ysgolion yn cofnodi ac yn ymateb i achosion o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fanwl yn ein hadroddiad thematig, ‘Nid ydym yn dweud wrth ein hathrawon’.
“Felly, rydym yn croesawu’r argymhellion yn adroddiad y Senedd. Mae diogelu dysgwyr yn parhau i fod yn ffocws ein harolygiad a byddwn yn ystyried y ffordd orau o fonitro pa mor dda y mae ysgolion yn creu diwylliant o ddiogelu i helpu i gadw dysgwyr yn ddiogel.
“Rydym yn cydnabod bod gan ysgolion ran bwysig i'w chwarae wrth ymdrin â phroblem aflonyddu rhywiol rhwng cymheiriaid. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom amlygu bod aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion yn fater cymdeithasol a bod gan rieni yn ogystal ag asiantaethau allanol perthnasol rôl bwysig i gefnogi ysgolion i addysgu pobl ifanc am y mater hwn.”