Newyddion S4C

Mwy nag un ym mhob tri o blant Cymru yn byw mewn tlodi

12/07/2022

Mwy nag un ym mhob tri o blant Cymru yn byw mewn tlodi

Mae mwy nag un ym mhob tri o blant ar draws Cymru yn byw mewn tlodi, yn ôl ymchwil newydd gan y gynghrair Dileu Tlodi Plant.

Mae’r amcangyfrif diweddaraf yn dangos fod tlodi plant yn uchel ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru, yn amrywio o 27% yn Sir Fynwy i dros 36% yng Nghasnewydd a Chaerdydd.

Mae mwy na chwarter o’r holl blant ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn hyn yn byw o dan y llinell dlodi. 

Yn ôl Dileu Tlodi Plant, roedd cyfraddau tlodi plant yng Nghymru yn ‘styfnig o uchel' tra roedd teuluoedd ar draws y DU yn elwa o gynnydd dros dro i’r taliad credyd cynhwysol.

Mae aelodau’r gynghrair Dileu Tlodi Plant, sydd yn cynnwys Grŵp Gweithredu Tlodi Plant ac Achub y Plant yng Nghymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu strategaeth tlodi plant newydd a chynllun gweithredu fel mater o frys. 

'Effaith anochel'

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Eurgain Haf o elusen Achub y Plant fod y ffigyrau yn “rhai o bryder."

“Ein pryder mwyaf ni fel elusennau ydy beth yw y rhagolwg ar gyfer y dyfodol i’r teuluoedd sy’n cael hi’n anodd iawn i ddal pen llinyn ynghyd.”

Ychwanegodd, “Da ni’n gweithio gyda teuluoedd sydd ddim yn gallu fforddio’r hanfodion- bwyd, dillad, mynd i ddyled, rhieni yn peidio bwyta er mwyn i’w plant gael bwyd.

“Mae hyn i gyd yn cael effaith anochel ar eu hiechyd meddwl nhw a’r plant.”

Mae ymgyrchwyr Dileu Tlodi Plant hefyd yn annog cynghorwyr sydd newydd eu hethol ar draws Cymru i ddefnyddio pwerau lleol, ym meysydd datblygiad economaidd, tai, a chefnogaeth gydag arian, i gynyddu incwm teuluoedd a lleihau’r costau y mae rhieni yn eu hwynebu.  

Image
Plentyn
Mae ymgyrchwyr Dileu Tlodi Plant eisiau i Lywodraeth Cymru wneud mwy i fynd i'r afael â'r broblem

Wrth ymateb i’r ffigyrau newydd, dywedodd Ellie Harwood o’r Grŵp Gweithredu Tlodi Plant: “Mae’r gostyngiad mewn tlodi plant ar lefel y DU yn dangos, pan fo’r DU a llywodraethau datganoledig yn buddsoddi mewn nawdd cymdeithasol, bod plant yn gallu cael eu codi allan o dlodi yn fuan iawn.

"Fodd bynnag, dim ond un agwedd o atal a dileu tlodi plant yw budd-daliadau."

“Ry’n ni hefyd angen tegwch o ran swyddi i deuluoedd, gofal plant sy’n hygyrch, system addysg sy’n gynhwysol ac yn fforddiadwy, a gwasanaethau cyhoeddus teg sy’n cwrdd ag anghenion penodol teuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan dlodi.

“Mae Cymru angen strategaeth tlodi plant newydd ar fyrder er mwyn gallu cyd-lynu'r holl weithredu sydd ei angen i atal a dileu tlodi plant am byth.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae haenau allweddol ar gyfer mynd i’r afael â thlodi plant – pwerau dros y system dreth a lles sydd yn nwylo Llywodraeth y DU. Byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn gyda’r pwerau sydd gennym i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a gwella canlyniadau i holl blant Cymru fel y gallant gyflawni eu potensial."

Ychwanegodd y llefarydd bod y pandemig a chostau byw uchel wedi 'cael effaith enfawr' ar bobl sydd yn byw mewn tlodi. 

"Ers mis Tachwedd, rydym wedi darparu mwy na £380m mewn cyllid ychwanegol i gefnogi aelwydydd yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng. 

“Mae’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol wedi ymrwymo i gyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant ar ei newydd wedd yn ystod tymor y Senedd hon," medd y llywodraeth. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.