Newyddion S4C

Cynlluniau i greu ysgolion cynradd Cymraeg newydd yn 'llawer rhy araf'

12/07/2022

Cynlluniau i greu ysgolion cynradd Cymraeg newydd yn 'llawer rhy araf'

Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i greu 23 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn "llawer rhy araf" meddai Cadeirydd Dyfodol i'r Iaith. 

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, mae Heini Gruffudd yn beirniadu'r twf mewn addysg Gymraeg gan ddweud nad oes "uchelgais" yng nghynlluniau'r llywodraeth. 

Mae'r llywodraeth hefyd yn bwriadu cynyddu capasiti 25 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg sydd eisoes yn bodoli.

Ychwanegodd Mr Gruffudd: "Mae yn dda iawn gweld cefnogaeth y llywodraeth i addysg Gymraeg, ond yn 2018 cyhoeddwyd y cynllun Cymraeg 2050. Rhagwelwyd yno y bydd angen 6,300 mwy o ddisgyblion mewn addysg Gymraeg sy’n golygu ryw 200 i 300 o ysgolion."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae awdurdodau lleol ledled Cymru wrthi'n cwblhau eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, sy'n nodi sut y maent yn bwriadu ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd dros y 10 mlynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau i 26% o ddysgwyr Blwyddyn 1 fod yn derbyn addysg yn Gymraeg erbyn 2026, gan godi i 30% erbyn 2031.

"Yn 2001 roedd 19% o blant saith oed yn derbyn addysg Gymraeg, erbyn 2015 cododd hynny i 22%, erbyn 2026 maen nhw’n gobeithio codi hynny i 26%, sef tua 0.5% y flwyddyn. Wel does dim gweledigaeth," ychwanegodd Mr Gruffudd. 

"Mae’r llywodraeth wedi derbyn mai ysgolion Gymraeg yw’r unig fodel gwir effeithiol o addysg sydd yn rhoi sgiliau llawn yn y ddwy iaith i ddisgyblion. Dim ond drwy addysg Gymraeg y cawn dwf gwirioneddol."

Image
Heini Gruffudd
Mae Heini Gruffudd yn credu nad yw cynlluniau'r llywodraeth ar gyfer addysg Gymraeg yn ddigon uchelgeisiol

Bydd angen i bob awdurdod lleol gytuno ar ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg derfynol a’i gyhoeddi erbyn 1 Medi 2022, yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019. 

Mae Mr Gruffudd yn meddwl bydd y 23 o ysgolion newydd yn "gwneud gwahaniaeth" ond bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod addysg Gymraeg yn bodoli.

"'Ry ni yn ymwybodol bod llawer iawn o awdurdodau addysg yn gwrthod codi ysgolion newydd ac mae angen i’r llywodraeth daclo hynny.

"Y gwir yw mai angen dau bwynt polisi. Un- dylai pob ysgol newydd fod yn ysgol Gymraeg drwy’r wlad i gyd. Yn ail- dylai siroedd y gorllewin i gyd anelu at roi addysg Gymraeg i bob plentyn cynradd o fewn deng mlynedd."

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Rwy'n falch o weld pa mor uchelgeisiol yw llawer o'r cynlluniau sydd wedi dod i law, yn enwedig y ffordd mae rhai awdurdodau lleol wedi gosod targedau sy'n rhagori ar ein disgwyliadau.

“Gyda'r cynlluniau hyn ar waith, mae gen i bob hyder y byddwn yn cyrraedd ein targedau ar gyfer 2026 a 2031, gyda'r nod yn y pen draw o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Mae fy neges yn glir – rwy’ am i addysg Gymraeg fod yn opsiwn i bawb ac rwy’ am i bawb gael y cyfle i fod yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.