Novak Djokovic yn ennill Wimbledon
10/07/2022
Mae Novak Djokovic wedi ennill pencampwriaeth senglau’r dynion yn Wimbledon am y pedwerydd tro yn olynol a'r seithfed tro yn gyfangwbl.
Fe gurodd y dyn o Serbia Nick Kyrgios o Awstralia o dair set i un brynhawn dydd Sul.
Roedd Kyrgios wedi ennill y set gyntaf ond fe ddaeth Djokovic yn ôl i ennill.
Mae e nawr wedi ennill 21 o bencampwriaethau yn ei yrfa.
Llun: Twitter/Novak Djokovic