Rhagor yn ymuno â'r ras i Rif 10

Mae’r Gweinidog Masnach Penny Mordaunt wedi ymuno â’r ras i fod yn arweinydd y blaid Geidwladol a’r prif weinidog.
Dywedodd: "Mae'n rhaid i'n arweinyddiaeth newid."
Daw hyn ar ôl i'r cyn-Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid a Jeremy Hunt gyhoeddi eu bod nhw'n ymgeisio.
Mae’r ddau wedi galw am dorri trethi gyda Mr Javid yn addo cael gwared ar y cynnydd mewn yswiriant gwladol.
Fe ddaeth Mr Hunt yn ail i Boris Johnson y tro diwethaf gafodd y blaid Geidwladol gystadleuaeth am yr arweinyddiaeth.
Ddydd Sadwrn fe wnaeth Canghellor y Trysorlys newydd Nadhim Zahawi ychwanegu ei enw at y rhestr o ymgeiswyr.
Dywedodd Mr Zahawi fe fyddai’n gostwng trethi, cynyddu gwariant amddiffyn a pharhau gyda diwygio addysg.
Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth Grant Shapps hefyd wedi datgan ei fod ef yn ymgeisio.
Dywedodd ei fod yn falch nad oedd wedi barnu Boris Johnson.
Mae'r Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace wedi cyhoeddi nad yw am ymgeisio am swydd y prif weinidog.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd ei fod am ffocysu ar ei swydd gyfredol.
Roedd Kemi Badenoch eisoes wedi cyhoeddi ei hymgais i fod yn arweinydd y blaid Geidwadol a swydd y prif weinidog.
Dywedodd y cyn-weinidog cydraddoldeb ei bod am “lywodraeth gyfyngedig" ac i “ddweud y gwir.”
Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad y cyn-ganghellor Rishi Sunak ddydd Gwener ei fod ef yn ymgeisio am swydd y prif weinidog.
Mae’r cyn-weinidog Brexit, Steve Baker wedi cyhoeddi nad yw am ymgeisio ond yn hytrach yn cefnogi'r twrnai cyffredinol Suella Braveman.
Mae Tom Tugendhat wedi cyhoeddi ei fod ef yn y ras hefyd.
Darllenwch fwy yma.