Newyddion S4C

Cameron Norrie - Llun Huw Evans

Cameron Norrie allan o Wimbledon ar ôl colli i Novak Djokovic

NS4C 08/07/2022

Does dim chwaraewyr Prydeinig ar ôl ym mhencampwriaeth Wimbledon wedi i Cameron Norrie gael ei drechu gan Novak Djokovic. 

Fe gollodd Norrie yn erbyn Djokovic, sydd eisoes wedi ennill Wimbledon chwe gwaith, mewn pedwar set yn y rownd gynderfynol ar Centre Court nos Wener. 

Roedd Norrie yn gobeithio mai fe fyddai'r chwaraewr Prydeinig cyntaf i gyrraedd rownd derfynol y bencampwriaeth ers Andy Murray yn 2016. 

Ond er iddo gipio'r set cyntaf, dangosodd Djokovic pam ei fod yn un o'r gorau i chwarae'r gêm gan frwydro 'nôl i ennill 2-6 6-3 6-2 6-4. 

Er gwaethaf y golled, mae'n foment dyngedfennol yng ngyrfa Norrie wrth iddo gyrraedd y rownd gynderfynol o bencampwriaeth Camp Lawn am y tro cyntaf. 

Fe fydd Djokovic nawr yn wynebu Nick Kyrgios yn y rownd derfynol ddydd Sul, gan anelu i ennill ei 21ain Camp Lawn. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.