Newyddion S4C

'Mae'r comedi drosodd': Y farn ryngwladol wrth i Boris Johnson gamu i lawr

08/07/2022
Boris Johnson (Llun Rhif 10)

Ddiwrnod yn unig ar ôl i Boris Johnson gyhoeddi y byddai'n ildio arweinyddiaeth y blaid Geidwadol cyn camu i lawr fel prif weinidog pan y bydd un newydd yn ei le, mae'r newyddion yn parhau yn ganolog yn y wasg ryngwladol. 

Yn ôl papur newydd Le Monde yn Ffrainc, mae'r "dair blynedd lle roedd o wrth y llyw yn Downing Street yn gyfnod lle mae Prydain, un o ddemocratiaethau mwyaf bywiog y byd, wedi camu yn ôl mewn amser o safbwynt gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol.

"Wrth ynysu ei wlad o Ewrop a pharhau i geisio hawlio'r arweinyddiaeth tan y diwedd un er gwaethaf rhybuddion ei weinidogion, mae Johnson wedi gwanhau'r DU ac o'r herwydd, cyfandir Ewrop hefyd.

"Dydi methiant Mr Brexit ddim yn newyddion drwg i'r rheiny sydd o blaid Ewrop cryf ac unedig mewn amser lle mae yna fygythiadau cynyddol, hyd yn oed rhyfel, ar y cyfandir."

'Un rheol i Johnson, a rheol arall i bawb arall'

Fe wnaeth papur newydd El País yn Sbaen ddatgan na chymerodd hi "lawer o amser i Boris Johnson gredu fod yna un rheol iddo fo, a rheol arall i bawb arall. 

"Mae Johnson yn gadael gwlad heb unrhyw arweinyddiaeth economaidd a pherthynas wan gyda'i phrif barter economaidd a masnach ers degawdau: yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae'r comedi drosodd. Efallai fod Boris Johnson yn credu fod ei gyfnod yn llywodraethu wedi bod yn hwyl, ond mae hi'n amser rwan i Brydain adennill ei haeddfedrwydd a'i statws rhyngwladol."

'Celwyddog, anghyfrifol, di-hid'

Mae'r New York Times yn adrodd nad oedd Johnson wedi "twyllo unrhyw un ynghylch pwy oedd o go iawn.

"Dros y blynyddoedd, mae wedi cael ei ddisgrifio yn rheolaidd fel rhywun celwyddog, anghyfrifol, di-hid sydd heb unrhyw arweiniad clir oni bai'r ffaith ei fod yn dyheu i ddal gafael mewn grym."

'Y clown wedi mynd'

Roedd papur newydd The Moscow Times yn Rwsia yn adrodd y datganiadau cryf a gafodd eu dweud gan y Kremlin yn sgil ymddiswyddiad Mr Johnson.

Dywedodd y Kremlin eu bod yn gobeithio y bydd arweinydd nesaf y DU yn "fwy proffesiynol" ond "ar hyn o bryd, does dim llawer o obaith am hyn."

Daw hyn wrth i lefarydd y Senedd yno, Vyacheslav Volodin, ddatgan bod y "clown wedi mynd" ar ôl i Mr Johnson ymddiswyddo. 

Mr Johnson oedd un o gefnogwyr mwyaf blaenllaw Wcráin yn sgil ymosodiad milwrol Rwsia ar y wlad, ac fe wnaeth ymweld â dinas Kyiv ddwywaith ers decrhau'r rhyfel i gyfarfod yr Arlywydd Zelensky. 

Tristwch Zelensky

Ar y llaw arall, dywedodd papur newydd The Kyiv Post yn Wcráin bod yr Arlywydd Zelensky wedi ffonio Boris Johnson nos Iau i fynegi ei "dristwch" yn sgil ei ymddiswyddiad.

Dywedodd Swyddfa'r Arlywydd ar ran Zelensky eu bod nhw'n "derbyn y newyddion hyn gyda llawer o dristwch. Nid fi yn unig (Zelensky), ond Wcráin fel gwlad."

Llun: Rhif 1o

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.