Newyddion S4C

Mam Baby P wedi'i rhyddhau o'r carchar

Mirror 07/07/2022
Baby P

Mae Tracey Connelly, mam y bachgen oedd yn cael ei adnabod fel "Baby P", wedi'i rhyddhau o'r carchar. 

Bu farw ei mab Peter yn 17 mis oed ar ôl dioddef camdriniaeth erchyll gan bartner ei fam, Steven Barker, a'i frawd Jason Owen dros gyfnod o wyth mis yn Haringey, Llundain.

Fe gafodd Connelly ei charcharu yn 2009 am achosi neu alluogi marwolaeth ei phlentyn, a derbyniodd leiafswm o bum mlynedd dan glo, cyn cael ei rhyddhau yn 2013.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach fe gafodd ei charcharu unwaith eto ar ôl torri amodau ei pharôl.

Bellach mae wedi'i rhyddhau unwaith eto, wedi i farnwr rwystro ymdrechion Dominic Raab, a oedd yn Ysgrifennydd Cyfiawnder ar y pryd, i'w hatal rhag cael ei rhyddhau. 

Darllenwch fwy yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.