
Ar eich marciau...Pwy fydd yn fuddugol yn y ras i Rif 10?
Yn dilyn ymddiswyddiad Boris Johnson fel arweinydd y Blaid Geidwadol ddydd Iau, mae golygon yn troi at y dyfodol a phwy fydd yn ei olynu.
Mae nifer o enwau sydd wedi sefyll i fod yn arweinydd yn y gorffennol wedi dweud na fyddan nhw'n gwneud eto, gan gynnwys Michael Gove, Dominic Raab, Matt Hancock ac Andrea Leadsom.
Mae rhai ASau eisoes wedi cyhoeddi eu hymgyrchoedd am yr arweinyddiaeth, ac eraill wedi datgan diddordeb.
Ond gydag Aelodau Seneddol Ceidwadol yn paratoi i ddechrau pleidleisio yn yr wythnos nesaf, pwy sydd ymhlith yr enwau a fedrai fod yn arweinydd nesaf ar y blaid?

Llun: Y Weinyddiaeth Dai/Flickr
Rishi Sunak - Wedi cyhoeddi
Roedd Rishi Sunak yn Ganghellor ers 2020 tan nos Fawrth pan wnaeth ymddiswyddo o lywodraeth Boris Johnson.
Mae'n cynrychioli etholaeth yng ngogledd Lloegr, Richmond (Yorks) yn Swydd Efrog, ac wedi gwneud hynny ers 2015.
Fe gafodd ganmoliaeth am rai o'i bolisïau ariannol yn ystod y cyfnod clo gan gynnwys y cynllun ffyrlo, ond mae rhai wedi dweud nad oedd wedi gwneud digon i helpu yn ystod yr argyfwng costau byw.
Fe wnaeth hefyd dderbyn dirwy gan Heddlu'r Met am fynychu digwyddiad pen-blwydd i Boris Johnson yn Downing Street ym mis Mehefin 2020 yn ystod y cyfnod clo, sef un o'r rhesymau dros ymadawiad Boris Johnson.

Llun: Rhif 10/Flickr
Ben Wallace - Heb gyhoeddi
Ben Wallace yw'r Ysgrifennydd Amddiffyn ers 2019.
Mae wedi bod yn un o gefnogwyr mwyaf ffyddlon Boris Johnson ar hyd y blynyddoedd.
Mae wedi creu enw i'w hun am ei ymateb gyda'r ymdrech i symud pobl o Afghanistan yn sgil dychweliad y Taliban i rym yno.
Yn fwy diweddar, mae Mr Wallace wedi derbyn canmoliaeth am ei waith i gefnogi Wcráin yn ystod ymosodiad Rwsia ar y wlad.

Llun: Rhif 10/Flickr
Penny Mordaunt - Heb gyhoeddi
Mae Penny Mordaunt wedi cynrychioli Gogledd Portsmouth ers 2010.
Ers 2021, mae wedi bod yn Weinidog Polisi Masnach ac nid oedd yn un o'r 59 o weinidogion i ymddiswyddo o'r llywodraeth yn y dyddiau diwethaf.
Roedd yn Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol ac yn Ysgrifennydd Amddiffyn yng nghabinet Theresa May.
Ms Mordaunt yw'r unig AS benywaidd ar hyn o bryd sydd yn rhan o gefnlu'r Llynges Frenhinol.

Llun: Llywodraeth y DU/Flickr
Sajid Javid - Heb gyhoeddi
Mae Sajid Javid yn un o'r wynebau mwyaf profiadol yn y rhestr o olynwyr posib i Boris Johnson ac wedi cynrychioli etholaeth Bromsgrove ers 2010.
Fe gafodd ei benodi'n Ysgrifennydd Iechyd yn 2021, wedi i Matt Hancock orfod ymddiswyddo.
Cyn hynny, roedd wedi gwasanaethu yng nghabinet Johnson fel Canghellor a nifer o swyddi o fewn y cabinet dan arweinyddiaeth David Cameron a Theresa May.
Safodd Mr Javid yn yr etholiad i fod yn arweinydd ar y Ceidwadwyr yn 2019.

Llun: Rhif 10/Flickr
Liz Truss - Heb gyhoeddi
Mae Liz Truss wedi bod yn Ysgrifennydd Tramor ers 2021 a cyn hynny, roedd hi'n Ysgrifennydd Masnach Rhyngwladol yng nghabinet cyntaf Boris Johnson.
Ers 2010, mae Ms Truss wedi cynrychioli etholaeth De Orllewin Norfolk.
Mae hi'n un o ffigyrau mwyaf profiadol y cabinet presennol ac wedi parhau yn ei rôl yn y llywodraeth er gwaethaf yr ymddiswyddiadau gan nifer o'i chyd-weithwyr.
Mae Ms Truss hefyd wedi gwasanaethu llywodraeth David Cameron fel Ysgrifennydd yr Amgylchedd, ac fel Ysgrifennydd Cyfiawnder yng nghabinet Theresa May.

Llun: IAEA Imagebank/Flickr
Nadhim Zahawi - Heb gyhoeddi
Mae Nadhim Zahawi wedi bod yn Ganghellor ers ymddiswyddiad Rishi Sunak nos Fawrth.
Cyn hynny, roedd yn Ysgrifennydd Addysg ac yn Weinidog Darparu Brechlyn Covid-19.
Mae Nadhim Zahawi wedi cynrychioli etholaeth Stratford-on-Avon yn Nhŷ’r Cyffredin ers 2010.
Cafodd ei eni yn Iraq ac yn naw oed, fe wnaeth e a'i deulu ffoi rhag Saddam Hussein i sefydlu eu cartref yn y Deyrnas Unedig.

Tom Tugendhat - Wedi cyhoeddi
Yr AS cyntaf i gyhoeddi ei ymgyrch yn swyddogol, nid yw Tom Tugendhat wedi gweithio yn y cabinet hyd yma.
Mae e wedi cynrychioli etholaeth Tonbridge a Malling ers 2015.
Ar hyn o bryd, mae'n Gadeirydd ar Bwyllgor Dethol Materion Tramor yn Nhŷ’r Cyffredin.
Mae rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol eisoes wedi datgan eu cefnogaeth i Mr Tugendhat.

Llun: Adran Ddiwylliant y Llywodraeth/Flickr
Jeremy Hunt - Heb gyhoeddi
Mae Jeremy Hunt yn ffigwr blaenllaw o fewn y blaid Geidwadol ac wedi cynrychioli De Orllewin Surrey ers 2005.
Fe safodd am yr arweinyddiaeth yn 2019, gan gyrraedd y ddau olaf yn erbyn Boris Johnson.
Roedd wedi gwasanaethu yng nghabinet David Cameron a Theresa May fel Ysgrifennydd Tramor, Ysgrifennydd Iechyd ac Ysgrifennydd Diwylliant.
Erbyn hyn, mae'n Gadeirydd ar Bwyllgor Dethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Nhŷ’r Cyffredin.

Steve Baker - Wedi datgan diddordeb
Mae Steve Baker eisoes wedi dweud y bydd yn sefyll am yr arweinyddiaeth.
Mae'n ffigwr dylanwadol ar y meinciau cefn, yn Gadeirydd ar Grŵp Adfer Covid ac yn gyn-Gadeirydd Grŵp Ymchwil Ewropeaidd.
Roedd hefyd yn Weinidog Brexit yn llywodraeth Theresa May ond fe gamodd o'r neilltu yn 2018 wrth wrthwynebu cynllun Brexit Theresa May.
Mae Mr Baker wedi cynrychioli Wycombe yn Swydd Buckingham ers 2010.

Suella Braverman - Wedi datgan diddordeb
Mae Suella Braverman wedi cyhoeddi ei bwriad i sefyll i fod yn arweinydd y Blaid Geidwadol, yn fyw ar raglen Peston ar ITV nos Fercher tra bod hi'n dal i fod yn rhan o'r llywodraeth.
Mae hi wedi bod yn Atwrnai Cyffredinol ers 2020, ac roedd hi'n Weinidog Brexit yn llywodraeth Theresa May.
Mae hi'n gyn-Gadeirydd y Grŵp Ymchwilio Ewropeaidd.
Mae hi wedi cynrychioli etholaeth Fareham ers 2015.
Gyda'r ornest megis dechrau, fe fydd hi'n sawl wythnos cyn i'r ymgeisydd buddugol ddod i'r amlwg.