
Slefrod môr arbennig yn ymddangos o ganlyniad i'r tywydd poeth

Mae math arbennig o slefrod môr wedi bod yn ymddangos ar arfordir Cymru wrth i'r tymheredd godi.
Gyda marciau oren a brown, gwelwyd llawer ar y traeth yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, dros y penwythnos diwethaf.
Mae’r slefren fôr ddanhadlen - y Chrysaora hysoscella - yn cael ei enw o'r marciau brown sy'n edrych fel cwmpawd.
Yr enw Saesneg yw 'compass jellyfish'.
Maen nhw'n gallu roi pigiad cas felly mae'n well eu hedmygu o bell.

Maent yn gyffredin yn nyfroedd Cymru rhwng mis Mai a Hydref pan fydd tymheredd y môr yn cyrraedd dros 10°C.
Erbyn mis Gorffennaf mae tymheredd y môr yn Sir Benfro yn cyrraedd 14°C a bydd ar ei uchaf ar ychydig dros 15°C ym mis Medi.
Mae'r slefrod môr yn bwydo ar bysgod bach, crancod a hyd yn oed slefrod môr eraill.
Mae eu pigiad ychydig yn gryfach na llawer o'r rhywogaethau mwy cyffredin o slefrod môr.
Unwaith y byddan nhw wedi pigo rhywbeth, maen nhw'n aml yn gadael y tentacl ar ôl ac yn gallu parhau i bigo hyd yn oed pan nad ydyn nhw wedi'u cysylltu â'u corff.