Newyddion S4C

Boris dan bwysau: Pwy aeth a phwy oedd yn ffyddlon?

07/07/2022
Boris Johnson - Llun Rhif 10

Os ydy wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, mae'n debyg fod y ddau ddiwrnod diwethaf i Boris Johnson wedi teimlo fel tragwyddoldeb.

Daeth 59 o ymddiswyddiadau cyn i lefarydd ar ran y Prif Weinidog ddatgan fore Iau y byddai Boris Johnson yn gwneud datganiad i'r wlad yn ddiweddarach.

Roedd y llythyrau wedi cyrraedd yn gyson ers i'r Prif Weinidog orfod ymddiheuro wedi iddi ddod i'r amlwg ei fod wedi anghofio am honiadau blaenorol am ymddygiad "amhriodol" y cyn Dirprwy Brif Chwip, Chris Pincher.

Am 12:30 ddydd Iau, daeth y cyhoeddiad gan Boris Johnson ei fod yn ildio arweinyddiaeth y blaid Geidwadol yn syth, cyn camu i lawr fel prif weinidog pan y bydd un newydd mewn lle.

Pwy aeth a phwy oedd yn ffyddlon?

Ymddiswyddiad Rishi Sunak oedd yr un mwyaf arwyddocaol yn ystod yr wythnos. Dywedodd y Canghellor nad oedd bellach yn gallu parhau i fod yn ffyddlon i'r Prif Weinidog. 

Yn fuan wedyn, ymddiswyddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Sajid Javid. Dywedodd yntau bod Prydeinwyr yn "disgwyl hygrededd gan ei llywodraeth."

Fe gyhoeddodd Simon Hart nos Fercher ei fod wedi ymddiswyddo o'i swydd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan nad "oedd dewis arall ar ôl."

Mae aelodau seneddol Cymreig eraill hefyd ymysg y degau sydd wedi ymddiswyddo o'r llywodraeth - gyda Craig Williams, James Davies a Virginia Crosbie yn troi eu cefn ar yr arweinyddiaeth.

Yn fuan bore Iau, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon, Brandon Lewis, ei fod yn ymddiswyddo gan nad ydy'r "gonestrwydd, hygrededd a'r parch bellach yn cael eu cynnal."

Roedd y Gweinidog Plant a Theuluoedd, Will Quince, yn ogystal â'r Gweinidog Ysgolion, Robin Walker, yn ragor o ymddiswyddiadau niweidiol i Boris Johnson, gyda'r ddau yn nodi diffyg hygrededd a nad oedd dewis arall ond ymddiswyddo. 

Daeth mwy o ymddiswyddiadau sylweddol i'r Prif Weinidog - o'r Gweinidog Cyfiawnder, Victoria Atkins, i Weinidog y Trysorlys, John Glen, i'r Gweinidog Cyflogaeth, Mims Davies.

Mewn llythyr ar y cyd, ysgrifennodd 5 o weinidogion iau, at y Prif Weinidog yn ymddiswyddo. Roedd y rhain yn cynnwys Kemi Badenoch, Neil O'Brien, Alex Burghart, Lee Rowley a Julia Lopez.

Daeth cadarnhad nos Fercher hefyd bod Mr Johnson wedi rhoi'r sac i Michael Gove ar ôl i Mr Gove nodi ei anfodlonrwydd fod y Prif Weinidog yn bwriadu parhau yn ei swydd.

Rhai wedi parhau i aros yn ffyddlon

Er hyn, roedd rhai wedi penderfynu aros yn ffyddlon i Boris Johnson. 

Mae'r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Dominic Raab, eisioes wedi datgan ei fod yn "aros yn ffyddlon i'r prif weinidog" yn ogystal â'r Ysgrifennydd Diwylliant, Nadine Dorries, sy'n grediniol bod Boris Johnson "wastad yn cael y penderfyniadau mawr yn gywir."

Dywedodd y Gweinidog Brexit, Jacob Rees-Mogg, bod Mr Johnson wedi ennill mandad mawr a ni ddylai hynny gael ei ddileu "oherwydd bod nifer o bobl wedi ymddiswyddo."

Roedd yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Ben Wallace, a'r Ysgrifennydd Tramor, Liz Truss, hefyd yn rhan o garfan Mr Johnson.

Llun: Rhif 10

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.