Newyddion S4C

Lefelau ffosffadau mewn afonydd yng Nghymru yn 'parlysu' y system gynllunio

Lefelau ffosffadau mewn afonydd yng Nghymru yn 'parlysu' y system gynllunio

Newyddion S4C 05/07/2022

Does yna ddim atebion rhwydd na chyflym i ddatrys argyfwng cynllunio sydd wedi parlysu'r broses o godi tai newydd mewn sawl rhan o Gymru.

Dyna rybudd Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, ar drothwy cyfarfod allweddol yn y Sioe Frenhinol i drafod y sefyllfa. 

Ym mis Ionawr 2021, fe gyflwynodd Cyfoeth Naturiol Cymru dargedau newydd llym ar gyfer lefelau ffosffadau mewn 9 afon sydd wedi eu dynodi yn ardaloedd o gadwraeth arbennig. 

Y gred yw fod 12 awdurdod cynllunio wedi eu heffeithio gan y targedau newydd sydd rhyw 50-80% yn fwy llym na'r rhai blaenorol.

Mae Ffosffadau yn fineralau sydd i'w darganfod mewn carthion dynol ac anifeiliaid, ac yn hybu twf planhigion. Fe'i defnyddir mewn gwrtaith. Ond fe all lefelau uchel o ffosffad gynyddu twf algae mewn dŵr, sydd yn ei dro yn lleihau lefelau ocsigen mewn afonydd, a niweidio bywyd gwyllt. 

Wrth asesu ceisiadau cynllunio, mae'n rhaid i awdurdodau lleol yn y 9 ardal wirio nawr na fydd lefelau ffosffad yn cynyddu yn sgil unrhyw ddatblygiad.

Mae hynny yn golygu bod nifer fawr o geisiadau cynllunio ar stop. Mae Cyngor Sir Penfro wedi gorfod gohirio'r broses o lunio Cynllun Datblygu Lleol newydd. 

Ym mhentref Cwmann, roedd cymdeithas tai Barcud yn awyddus i godi 20 o gartrefi fforddiadwy ar safle hen ysgol gynradd Coedmor. Ond bu'n rhaid i Gyngor Sir Caerfyrddin ohirio'r cais ar y funud olaf ym mis Mawrth eleni, ar ôl i Gyfoeth Naturiol Cymru godi pryderon am allyrion ffosffadau o'r safle.

'Tipyn o sioc'

Yn ôl Geraint Roberts, sydd yn Uwch Swyddog Datblygu gyda Barcud, roedd y penderfyniad yn "dipyn o sioc." 

Mae'n amcangyfrif bod yna gannoedd o dai fforddiadwy sydd yn methu cael eu hadeiladu, oherwydd y broblem ffosffadau.

"Mae'n broblem enfawr i ni oherwydd mae yna angen ar gyfer tai fforddiadwy yn yr ardaloedd gwledig yma. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi grant i adeiladu'r tai ond yn amlwg 'da ni methu mynd yn ein blaenau.

Yr ateb syml yw i'r awdurdod dŵr i wella y system garthffosiaeth lleol drwy ychwnaegu beth maen nhw'n galw yn 'phosphate stripping' ond does yna ddim awgrym bod hynny yn mynd i ddigwydd."

Mae'n dweud nad yw hi'n bosib adeiladu tai mewn rhannau helaeth o Geredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin oherwydd y targedau ffosffad newydd. 

Mae Geraint Roberts yn rhagweld "argyfwng" os na fydd yna ddatrysiad i'r sefyllfa : 

"Mae niferoedd pobl digartref yn mynd i fyny. Mae prisiau tai yn mynd fyny. Heb supply o dai newydd, sdim gwella ar y sefyllfa."

Problem 'gymhleth' a 'hir-dymor'

Dywedodd Ioan Williams, Prif Ymgynghorydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar Afonydd sydd yn ardaleodd cadwraeth arbennig, bod y targedau wedi eu cyflwyno er mwyn "gwella ansawdd dŵr" yr afonydd. 

Mae'n dweud fod y broblem yn "gymhleth" a "hir dymor" a bod ffosffadau yn dod o weithfeydd trin dŵr gwastraff, amaethyddiaeth, tanciau septig ac ei fod e hyd yn oed yn bodoli mewn past dannedd. 

Mae BBC Cymru wedi gweld llythyr a anfonwyd gan Dŵr Cymru at gynllunwyr y llynedd sydd yn awgrymu taw dim ond mewn llond dwrn o weithfeydd trin dwr gwastraff mae yna offer arbenigol i dynnu ffosffadau.

O'r 829 gorsaf trin dwr gwastraff dan reolaeth Dŵr Cymru, dim ond mewn 46 mae yna offer i dynnu ffosffadau. Mae yna fwriad i fuddsoddi mewn 12 safle arall erbyn 2025 yn ôl y llythyr sydd wedi cael ei weld gan Newyddion S4C. 

Yn ôl Steve Wilson, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr Gwastraff Dŵr Cymru, roedd y targedau newydd a gyhoeddwyd ym mis Ionawr y llynedd yn "syndod" am fod Dŵr Cymru yn trafod cynlluniau buddsoddi gyda Chyfoeth Naturiol Cymru. 

Yn ôl Mr Wilson, mae Dŵr Cymru yn buddsoddi £800m i wella gweithfeydd trin dŵr gwastraff, ond dyw hi ddim yn ymarferol i roi cyfarpar i dynnu ffosfadau ymhob un.

"Hyd yn oed petasen ni yn gosod offer o dynnu ffosffadau ym mhob gwaith, fydd y dŵr ddim yn cwrdd a'r safonau newydd. Mae'n rhaid mynd at wraidd y ffynonellau eraill o ffosffadau. Dyna'r her. Sut mae gweithio gyda amaeth, gyda thirfeddianwyr, gydag awdurdodau lleol i geisio canfod y ffynonellau hynny."

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal uwchgynhadledd yn y Sioe Frenhinol i drafod y ffordd ymlaen.

Yn ôl Ioan Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru, "rhan o'r ateb" yn unig ydy diweddaru technoleg mewn gweithfeydd trin dŵr gwastraff. Mae'n dweud bod y cyfarfod yn y Sioe yn profi fod y pwnc yn "uchel iawn ar yr agenda."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod yr achos dros godi tai cymdeithasol "mor gryf ag erioed" a dyna pam y cyhoeddwyd targed i godi 20,000 o dai carbon isel i'w rhentu yn ystod y tymor presennol.

"Mae iechyd ein hafonydd o bwysigrwydd enfawr i'r llywodraeth. Dyma pam rydym yn trefnu uwchgynhadledd afonydd ACA (ardaloedd cadwraeth arbennig) fel y bydd cyfle i bob un ystryied sut y gallan nhw gyfrannu syniadau a datrysiadau."

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.