Elton John yn chwarae yn Abertawe fel rhan o'i daith 'olaf'

Mae Elton John yn chwarae yn Abertawe nos Fercher fel rhan o'i daith "olaf".
Bydd yn perfformio yn Stadiwm Swansea.com gyda disgwyl i filoedd fynychu'r gyngerdd.
Mae'r canwr wrthi yn teithio'r Deyrnas Unedig, Ewrop a Gogledd America yn perfformio fel rhan o daith Farewell Yellow Brick Road: The Final Tour ym Mehefin 2022.
Bu'n rhaid gohirio rhai o ddyddiadau'r daith yn sgil pandemig Covid-19.
Bydd y daith yn dod i ben yn 2023 yn Awstralia.
Llun: Elton John/YouTube