ASau'n pleidleisio o blaid cynnig ar wasanaethau cymorth i farw yng Nghymru
Mae aelodau Senedd Cymru wedi pleidleisio o blaid cynnig y dylai gweinidogion Llywodraeth Cymru osod rheolau ar gyfer sefydlu gwasanaethau cymorth i farw ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae'r ddeddfwriaeth ddadleuol am yr hawl i farw yn cael ei phenderfynu yn San Steffan - ond mae gofyn i Senedd Cymru fynegi barn ar ddarparu'r gwasnaeth yma yng Nghymru yn y dyfodol.
Nid oedd y gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn pleidleisio ar a ddylai cymorth i farw fod yn gyfreithlon ai peidio, ond yn hytrach yn penderfynu a ddylai gweinidogion Cymru allu gosod rheolau ar gyfer gwasanaethau cymorth i farw yn unig.
Pleidleisio felly ar faterion technegol oedd y gwleidyddion nos Fawrth, yn hytrach na'r egwyddor o gael yr hawl i dderbyn cymorth i farw.
Bu'r gwleidyddion yn trafod am bron i ddwyawr cyn pleidleisio ar y cynnig.
Fe bleidleisiodd 28 AS o blaid y cynnig, gyda 23 yn erbyn, a dau AS yn atal eu pleidlais.
Fe wnaethant hefyd gefnogi gwelliant gan Heledd Fychan AS o Blaid Cymru yn "gresynu at y diffyg ystyriaeth drylwyr o oblygiadau cyfansoddiadol y Bil hwn i Gymru yn ystod y broses ddeddfwriaethol."
'Dadl gonfensiynol, ond pwnc gwahanol'
Wrth agor y drafodaeth yn siambr y Senedd, dywedodd y Gweinidog Iechyd Jeremy Miles AS: “Mewn ambell ffordd, dadl gonfensiynol am gynnig cydsyniad deddfwriaethol yw hon.
"Mae gofyn i ni ystyried a ydyn ni’n cydsynio i set o ddarpariaethau yn un o filiau’r DU sy’n berthnasol i’n setliad datganoli ni.
“Yr hyn sy’n wahanol, fodd bynnag, yw pwnc a natur y bil. Bil aelod preifat yw hwn sydd wedi’i ddatblygu gan y noddwyr yn hytrach na’r llywodraeth ac mae’n ymwneud â phwnc eithriadol - marw a chymorth yn wirfoddol - pwnc y bydd gan bob un ohonom ni ein barn ein hunain amdano.
“Ond dyw’r cynnig sydd ger ein bron ni heddiw ddim yn refferendwm ynglyn â chyfreithloni marw gyda chymorth yng Nghymru. Dim ond Senedd y DU sy’n gallu gwneud y penderfyniad hwnnw, gan ei fod yn ymwneud gyda newidiadau i ddeddfwriaeth lle mae cyfyngiad a chymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru."
Ychwanegodd y gweinidog: “Mae’r ddadl a’r bleidlais hon yn ymwneud gyda darpariaethau penodol yn y bil sy’n rhoi sylw i faterion datganoledig. Mae rhain yn cynnwys darpariaethau sydd â’r bwriad o sicrhau bod y Senedd a gweinidogion Cymru yn cael rôl ystyrlon wrth weithredu a chyflawni trefniadau marw a chymorth yng Nghymru.”
Pleidlais rydd
Roedd gan aelodau'r Senedd bleidlais rydd ar y noson, ac fe gafwyd nifer o ddadleuon grymus o blaid ac yn erbyn y cynnig.
Wrth drafod y cynnig, dywedodd Heledd Fychan AS o Blaid Cymru fod cymorth i farw yn fater arwyddocaol i Gymru, ond roedd yn feirniadol o'r ffaith mai nid dyma oedd y testun dan sylw.
"Achos mae hwn yn fater arwyddocaol i Gymru. Mae ganddo ddylanwad arwyddocaol ar yr hyn sydd o fewn ein rheolaeth yma yng Nghymru, ond eto nid ydym yn dadlau y pwnc mwyaf sylweddol yma - nid ydym yn rhoi llais i'r holl rai hynny sydd yn teimlo'n gryf y tu allan i'r siambr hon."
Dywedodd Darren Millar AS, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ei fod yn erbyn y cynnig: “Rwy’n gwybod bod rhai sylwadau wedi’u gwneud gyda’r bwriadau gorau, yn ceisio gwahanu’r trafodaethau ar egwyddor y bil hwn oddi wrth y drafodaeth ar y cymalau penodol sydd ger ein bron,” meddai.
“Ond mae arnaf ofn ei bod yn amhosibl gwahanu’r ddau’n llwyr, oherwydd nid dadl am y cymalau penodol hynny yn unig mo hon. Mewn gwirionedd, mae’n ddadl am werthoedd sylfaenol ein cenedl a gwir ystyr tosturi.
“Gadewch i ni fod yn onest am y dasg sydd o’n blaenau - er bod y term “marwolaeth â chymorth” yn cael ei ddefnyddio gan lawer i feddalu’r realiti, mewn gwirionedd rydym yn sôn am hunanladdiad â chymorth."
Ychwanegodd Mr Millar: “Iaith yw’r lens y gwelwn foesoldeb drwyddi, a thrwy lanhau’r eirfa, rwy’n meddwl ein bod mewn perygl o guddio gwir ddifrifoldeb yr egwyddor y mae’r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth yn ei chefnogi.
“A’r egwyddor honno yw darpariaeth o ddulliau angheuol, sy’n cael eu cymeradwyo gan y wladwriaeth, i ddinesydd er mwyn dod â’i fywyd i ben.”
'Anghyfrifol'
Dywedodd yr AS Llafur Julie Morgan y byddai’n “anghyfrifol” i Aelodau’r Senedd beidio â chefnogi’r cynnig.
“Os byddwn yn ei wrthod heddiw, byddant [Senedd San Steffan] yn tynnu'r cymalau allan, a byddwn yn colli'r cyfle i wneud yr hyn a allwn i sicrhau bod diwedd oes pobl yn cael ei drin mor dosturiol ag y gallwn,” meddai.
“A fyddem ni yn y Senedd hon eisiau gadael pobl Cymru heb unrhyw fynediad at wasanaethau pe bai'r mesur hwn yn dod yn gyfraith? Ac mae'n debygol iawn, dw i'n meddwl, y bydd y mesur hwn yn dod yn gyfraith…
“Dwi’n meddwl y byddai’n anghyfrifol peidio â gwneud o fewn y pwerau sydd gennym ni yr hyn a allwn ni i sicrhau bod gennym ni'r pŵer yma i wneud pethau, i wneud y gwasanaethau mor dda ag y gallwn ni.”
Tŷ'r Arglwyddi
Ar hyn o bryd mae'r bil cymorth i farw a gafodd ei gyflwyno gan yr AS Llafur yn San Steffan, Kim Leadbeater, yn cael ei drafod yn Nhŷ'r Arglwyddi - ac fe allai gymryd blynyddoedd cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud.
Gan fod iechyd yn fater datganoledig, ac oherwydd y byddai’r bil yn berthnasol i Gymru a Lloegr, mae’n rhaid i Senedd Cymru gydsynio i unrhyw newidiadau a fyddai’n cael eu gwneud i’r gwasanaeth iechyd yma.
Mae’n bosib y gallai’r hawl gyfreithiol i farw barhau i ddod mewn i rym yng Nghymru heb gymeradwyaeth Senedd Cymru, ond ni fyddai’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan y GIG.
Cafodd y bil cymorth i farw ei wrthod fel cydsyniad pan bleidleisiodd y Senedd ar y mesur diwethaf, sef ym mis Hydref 2024.
Pe bai Senedd San Steffan yn cymeradwyo'r bil, fe fydd derbyn cymorth i farw yn dod yn gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr yn y pen draw.
Lluniau: Senedd.tv