Newyddion S4C

Rhyddhad wrth i fab adael yr ysbyty yn dilyn chwe mis 'uffernol' i deulu o Abertawe

24/06/2022

Rhyddhad wrth i fab adael yr ysbyty yn dilyn chwe mis 'uffernol' i deulu o Abertawe

Mae tad o Abertawe wedi sôn am ei ryddhad wedi i'w fab adael yr ysbyty ar ôl cyfnod estynedig yno.

Roedd Adam Gillibrand, 29, yn Ysbyty Glangwili ers canol mis Ionawr, gan dreulio'r tri mis cyntaf mewn uned gofal dwys yno.

Mae Adam yn byw ag awtistiaeth sy'n golygu ei bod hi'n fwy anodd iddo gyfathrebu drwy eiriau.

Mae'r Parchedig Ddoctor John Gillibrand yn gwasanaethu ardal Pontarddulais a Phenllergaer, gan ddweud fod ei ffydd a chefnogaeth y gymuned Gristnogol wedi bod yn bwysig iawn iddo yn ystod y cyfnod heriol diweddar.

Dywedodd John wrth Newyddion S4C: "Mae wedi bod yn gyfnod uffernol, a dwi'n dewis fy ngeiriau yn ofalus yn fan 'no'n de, yn gyfnod uffernol i ni fel teulu. 

"Ond heddiw 'ma mi roedd yn brofiad a hanner i weld e yn mynd mas drwy drws ffrynt yr ysbyty a mynd am adra'."

Image
Adam + Gillian
Gillian Gillibrand yn ymweld â'i mab, Adam.

'Cefnogaeth anhygoel'

Roedd rheolau yn ystod y cyfnod clo yn golygu nad oedd modd i deulu Adam ymweld ag ef yn ei gartref gofal am gyfnod helaeth.

Bu'r cyfnod y treuliodd Adam yn yr ysbyty yn gyfnod gofidus arall i'r teulu, ac mae John yn falch o weld ei fab wedi gwella.

"Mi oedden i yn ofni yn fawr iawn beth oedd yn mynd i ddigwydd.  Fel dwi'n dweud, am y tri mis cyntaf, byw o ddydd i ddydd.  Mi oedd Adam mewn perygl o farw," meddai.  

"Ond toc cyn Y Pasg ar ddydd Iau Cablyd, nos Iau, ar ôl y gwasanaeth yn yr eglwys yn Pontarddulais lle dwi'n ficer, aethon ni draw i'r 'sbyty ac yn groes i'r disgwyl cawson ni y newyddion bod y moddion wedi gweithio, bod y triniaeth wedi llwyddo a 'dan ni wedi bod yn aros ers hynna."

Mae'r gefnogaeth ar y cyfryngau cymdeithasol i John a'i deulu wedi bod yn amlwg, gyda hyd yn oed y cymeriadau Awstralaidd The Wiggles yn anfon eu dymuniadau gorau pan oedd Adam yn ddifrifol wael.

"Mae y cefnogaeth wedi bod yn anhygoel, ac eto dwi'n dewis fy ngeiriau yn ofalus," meddai. 

"Pobl ar y cyfryngau cymdeithasol, Trydar ac ati.  Mae Trydar yn medru bod yn gas iawn ond dim gyda ni y Gillibrandiaid o gwbwl. 

"'Dan ni wedi cael cannoedd a miloedd yn danfon dymuniadau gora', yn danfon gweddïa', yn danfon cefnogaeth. 

"A hefyd, mae'n bwysig iawn mod i yn diolch yn fawr iawn i gyd-weithwyr yn yr Eglwys yng Nghymru yn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, i'r plwyfolion yma yn Bontarddulais a Phenllergaer ac i'r gymuned ehangach. 

"Mae e wedi bod yn wych ac mi fydda i yn cofio y cyfnod yma am weddill fy oes ond wrth i mi gofio am pa mor uffernol oedd petha', mi fydda i hefyd yn cofio pa mor anhygoel oedd y cefnogaeth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.