Newyddion S4C

Gwasanaeth coffa er cof am Phil Bennett ym Mharc y Scarlets

24/06/2022

Gwasanaeth coffa er cof am Phil Bennett ym Mharc y Scarlets

Fe fydd gwasanaeth coffa er cof am Phil Bennett yn cael ei gynnal ym Mharc y Scarlets yn Llanelli ddydd Gwener.

Bydd y digwyddiad yn dechrau am 11:00 gyda drysau'n agor am 9:30 i bawb, gyda'r Scarlets yn gofyn i bobl wisgo unrhyw grys rygbi er cof amdano.

Bu farw Bennett ar ddydd Sul, 12 Mehefin yn 73 oed.

Mae'n cael ei gofio fel un o'r chwaraewyr rygbi gorau yn hanes Cymru.

Roedd y gŵr o Felin-foel yn rhan allweddol o fuddugoliaeth gofiadwy Llanelli o 9-3 dros Seland Newydd ym Mharc y Strade yn 1972.

Fe enillodd 29 o gapiau i Gymru, gan ymuno â'r Llewod yn ystod eu teithiau yn 1974 a 1977.

Ni fydd y gwasanaeth yn cael eu ffrydio ar-lein.

Bydd yr angladd yn dilyn y gwasanaeth yn Eglwys y Drindod Sanctaidd am 13:00.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn disgwyl nifer o bobl i fynychu ac o ganlyniad mae trefniadau parcio arbennig wedi eu cyflwyno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.