Newyddion S4C

Bachgen 13 oed wedi marw yn Afon Taf yng Nghaerdydd

22/06/2022
Taf

Mae bachgen 13 oed wedi marw yn Afon Taf yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i archwilio rhan o'r afon yng ngogledd y ddinas am 16:30.

Fe wnaeth swyddogion o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru, Gwylwyr y Glannau a'r Gwasanaeth Ambiwlans ymateb i'r digwyddiad.

Cafodd hofrennydd yr heddlu o Sain Tathan ei galw i archwilio rhan o'r afon rhwng yr Eglwys Newydd a Gogledd Llandaf.

Mewn datganiad nos Fawrth, dywedodd Heddlu'r De fod teulu'r bachgen wedi cael gwybod am y farwolaeth a'u bod yn cael eu cefnogi gan swyddogion.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Abi Biddle o Heddlu'r De: “Am 16.45 heddiw, dydd Mawrth Mehefin 21, cafwyd adroddiad am blant yn Afon Taf ger Heol Fferm y Fforest, yr Eglwys Newydd, ac roedd un bachgen ar goll.

“Cafodd y bachgen 13 oed oedd ar goll ei leoli yn yr afon tua 17.45 ac, er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, nid oedd yn gallu cael ei ddadebru.

“Mae teulu’r bachgen wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd.

“Mae'r Crwner wedi cael gwybod ac mae ymchwiliad i amgylchiadau’r digwyddiad yn parhau.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.