Ci dall 11 oed yn cael cartref cariadus am weddil ei fywyd

Ci dall 11 oed yn cael cartref cariadus am weddil ei fywyd
Mae Tiny Tim, ci dall sy’n 11 mlwydd oed wedi ffeindio cartref am byth ar ôl i’w “bersonoliaeth digwilydd” berswadio ei berchennog newydd i’w fabwysiadu.
Roedd Tiny Tim mewn cyflwr gwael pan gyrhaeddodd ganolfan anifeiliaid yr RSPCA, Llys Nini ym mis Mawrth, ar ôl i’w berchennog oedrannus fethu edrych ar ei ôl rhagor.
Yn ogystal â mynd yn ddall, roedd e’n dioddef amryw o broblemau iechyd. Nawr, dri mis yn ddiweddarach, mae cyflwr Tiny Tim yn gwella gyda’i faethwr Sally Humphries, sydd bellach wedi penderfynu ei fabwysiadu’n barhaol.
Mae hi’n hyfforddi ei phartner newydd gyda ‘clicker’ a thechnegau gwobrwyo, a Tiny Tim yn dysgu gorchmynion fel ‘eistedd’ a ‘gorwedd’.
“Pan gyrhaeddodd Tim adref am y tro cyntaf, fe wnes i osod camera i fonitro sut roedd yn ymdopi a dechreuon ni ei gadw ar dennyn a gwneud lapiau o amgylch ystafelloedd i'w helpu i ymgyfarwyddo,” meddai Sally, sydd hefyd yn arweinydd y tîm kenels yng Nghanolfan Anifeiliaid Llys Nini.
“Er gwaethaf ei oed a’r ffaith bod angen gofal lliniarol yn ôl pob tebyg arno, mae ganddo wir awch am fywyd. Mae’n bendant yn ifanc ei ysbryd ac mae’n rhaid i mi fod yn eithaf ffit i gadw i fyny ag ef!”
Mae Sally yn credu bod hyfforddi trwy wobrwyo yn ffordd gwych o gryfhau perthynas rhwng ci a’i berchennog.