Newyddion S4C

Jonny Clayton a Gerwyn Price

Cymru’n cystadlu yn rownd wyth olaf Cwpan Dartiau’r Byd

NS4C 19/06/2022

Mae Gerwyn Price a Jonny Clayton yn cynrychioli Cymru yn rownd wyth olaf Cwpan Dartiau'r Byd yn yr Almaen prynhawn Sul.

Fe gurodd y ddau Awstria brynhawn Sadwrn i symud ymlaen i rownd nesaf y gystadleuaeth yn Frankfurt.

Fe enillodd y ddau y gystadleuaeth yn 2020 ac fe fyddan nhw nawr yn wynebu’r pâr o’r Almaen ar domen eu hunain.

Roedd y gêm yn erbyn Awstria yn agos iawn ond llwyddodd y ddau Gymro i oresgyn o 4-3.

Roedd Price ar ei orau gyda sgoriau i gwblhau gemau o 156, 149 a 142.

Mae’r rowndiau cyn derfynol a therfynol yn cael eu chwarae nos Sul.

Llun: Twitter/Gerwyn Price
 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.