Cymru a'r byd rygbi yn cofio Phil Bennett

Cymru a'r byd rygbi yn cofio Phil Bennett
Mae Cymru a'r byd rygbi wedi bod yn cofio am un o faswyr gorau'r byd. Bu farw cyn gapten Cymru Phil Bennett yr wythnos hon yn 73. Yn un o sêr mwya'r Scarlets, y Llewod a'r Barbariaid hefyd, mae e wedi ei ddisgrifio fel gŵr bonheddig ac fel un o'r chwaraewyr rygbi gorau erioed.