Boris Johnson yn ymweld â Volodymyr Zelensky yn Kyiv

Mae Boris Johnson wedi ymweld ag arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, yn Kyiv ddydd Gwener.
Mewn ymweliad munud olaf, dywedodd Mr Johnson y byddai Prydain yn darparu hyfforddiant milwrol i luoedd Wcráin er mwyn cefnogi eu hymdrechion yn erbyn ymosodiadau Rwsia ar y wlad.
Dyma'r ail dro i Mr Johnson ymweld â'r wlad ers dechrau'r brwydro yno ym mis Chwefror. Mae Prydain wedi darparu £1.3bn o gymorth economaidd a milwrol i Wcráin ers dechrau'r rhyfel yno.
Mae'r daith yn gyfle i'r prif weinidog adael y feirniadaeth wleidyddol ohono tu ôl iddo am ychydig, yn dilyn wythnos gythryblus pan ymddiswyddodd Yr Arglwydd Christopher Geidt, ei ymgynghorydd moeseg.
Darllenwch ragor yma.
Llun: Swyddfa'r Prif Weinidog