Agor cynllun adfywio Cei Llechi yng Nghaernarfon yn swyddogol
17/06/2022Agor cynllun adfywio Cei Llechi yng Nghaernarfon yn swyddogol
Mae cynllun adfywio ardal Cei Llechi yng Nghaernarfon wedi cael ei agor yn swyddogol ddydd Gwener.
Mae'r cynllun gwerth £5.9m wedi ei arwain gan Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon Cyf.
Mae’r gwaith adfywio wedi gweld Swyddfa’r Harbwr yn cael ei hadnewyddu a’r unedau ac adeiladau oedd wedi dirywio yn sylweddol yn dod 'nôl i ddefnydd.
Mae cei ar y safle yng Nghaernarfon wedi bod yno ers 1611.
Daeth y cei yn rhan bwysig o drafnidiaeth yr ardal wrth i gysylltiad uniongyrchol gael eu creu gyda chwareli Nantlle yn 1828 a gyda’r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol yn yr 1860au.
Mae'r casgliad o adeiladau sydd yn ffurfio Cei Llechi heddiw wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd, o ran defnydd, yn swyddfeydd, gweithdai, siop gof, iard lo, garej, tŷ coets, siediau a storfeydd.
Roedd Cei Llechi yn gartref i swyddfa De Winton, cwmni peirianneg enwocaf Caernarfon a phrif gyflenwr offer i chwareli llechi Gogledd Cymru.
Gyda’r safle wedi ei esgeuluso, fe aeth perchnogion y safle, Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon ati i edrych ar opsiynau o ran beth oedd yn bosib ei wneud gyda chyfres o adeiladau oedd mewn cyflwr mor wael.
'Cyflwr gwael'
Yn ôl Ioan Thomas o Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon: “Roedd mwyafrif yr adeiladau mewn cyflwr gwael iawn ac wedi dod yn embaras i'r Ymddiriedolaeth Harbwr ac yn wir i'r dref o ystyried bod y lleoliad mor agos at Gastell Caernarfon sy’n Safle Treftadaeth y Byd.
"Fe wnaethom fel Ymddiriedolaeth ystyried nifer o opsiynau ar gyfer y safle dros gyfnod hir a sut oedd modd dod â’r hen gei llechi yn ôl yn fyw ond hefyd ddathlu gorffennol Caernarfon.
"Cawsom wybodaeth am Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau a oedd yn cyfuno gwaith adfer â menter i ddod ag adeiladau yn ôl yn fyw, yn benodol i ddefnydd masnachol.
"Mae gennym bellach ddatblygiad gwych Cei Llechi sy’n gyfle i arddangos talent leol a chreu cyfleoedd a swyddi newydd, yn ogystal â darparu ardal ddeniadol ar lan Afon Seiont i’r gymuned leol ac ymwelwyr ei mwynhau.”
Dechreuwyd trafodaethau a chynllunio am yr ailddatblygiad nôl yn 2012. Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, cynllunio a sicrhau cyllid drwy ffynonellau megis Llywodraeth Cymru, Cadw, Cyngor Gwynedd a £3.56m o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Dechreuwyd y gwaith clirio a pharatoi’r safle ym mis Hydref 2018.
'Mannau gwaith creadigol'
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae Cei Llechi yn darparu mannau gwaith creadigol newydd ac yn cyflwyno hanes a threftadaeth rôl Caernarfon yn y diwydiant llechi yn y 1800au a’i arwyddocâd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi treftadaeth gyfoethog a bywiog Cymru. Mae ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy'n cysylltu pobl a chymunedau â'u treftadaeth ac mae hon yn enghraifft wych o ddod o hyd i ddefnyddiau newydd ar gyfer hen fannau."
Wrth gefnogi’r prosiect adfywio, ychwanegodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae Cei Llechi yn brosiect adfywio unigryw ac arloesol sydd yn gweld defnydd unwaith eto mewn lleoliad oedd wedi ei anghofio a’u hesgeuluso. Drwy gynhyrchu, manwerthu, cyflwyno hanes a llety, mae gan Cei Llechi bellach bwrpas newydd sydd yn dod a rhan o’r dref oedd wedi’i anghofio efallai mewn i ddefnydd wrth hyrwyddo cynnyrch a phrofiad o Gymru newydd.”
Erbyn heddiw, mae 70% o’r unedau wedi’u cymryd gan fusnesau amrywiol megis cynhyrchwyr bwyd, bwyty, artistiaid celf, gof a crefftwyr sydd yn cyflogi dros 30 o staff ar y safle.
Dafydd Wigley, cyn Aelod Seneddol dros Arfon am 27 mlynedd, cyn Aelod Cynulliad ac erbyn hyn aelod o Dŷ’r Arglwyddi oedd yn gyfrifol am agor Cei Llechi yn swyddogol ddydd Gwener.