Gymnasteg Prydain: Gymnastwyr ifanc wedi eu 'llwgu, beirniadu a'u cosbi'

Mae adroddiad newydd wedi darganfod bod gymnastwyr ifanc wedi eu llwgu a'u gorfodi i hongian o gylchoedd fel cosb yn rhan o ddiwyddiant "sarhaus" Gymnasteg Prydain.
Fe wnaeth Adroddiad Whyte ddadansoddi dros 400 o gwynion gan ddatgan bod amryw o bobl ifanc wedi eu bychanu a'u niweidio yn barhaol yn feddyliol a chorfforol yn sgil eu cyfnod nhw yn y gamp.
Mae rhai o'r cyhuddiadau yn cynnwys cael eu hatal rhag mynd i'r toiled a'u gwahardd rhag yfed dŵr yn ystod cyfnodau hir o ymarfer.
Fe wnaeth Prif Weithredwr Gymnasteg Prydain, Sarah Powell, addo cael gwared ar y diwylliant sarhaus ymysg hyfforddwyr yn y gamp gan ddweud na fydd "arferion y gorffennol yn arferion y dyfodol."
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Chwaraeon y DU a Chwaraeon Lloegr y byddai "tynnu cyllid yn ôl nid yn unig yn atal Gymnasteg Prydain rhag gwneud y newidiadau hanfodol sydd eu hangen ond hefyd, byddai'n effeithio yn negyddol ar gefnogaeth a lles gymnastwyr heddiw."
Darllenwch fwy yma.
Llun: Gymnasteg Prydain