NBA yn partneru â Phêl-fasged Cymru i ddarganfod y LeBron James nesaf

NBA yn partneru â Phêl-fasged Cymru i ddarganfod y LeBron James nesaf
Mae yna obeithio y bydd partneriaeth rhwng Pêl-fasged Cymru a'r NBA yn medru hybu'r gamp yng Nghymru.
Pêl-fasged yw un o'r campau mwyaf poblogaidd yn y byd, gyda'r NBA yn arwain y gad fel y brif gystadleuaeth yn America.
Mae'r NBA nawr yn gobeithio tyfu'r gamp yng Nghymru trwy gynnal cynghrair i bobl ifanc o'r enw Junior NBA.
Mae ysgolion yn cystadlu yn erbyn ei gilydd gan gynrychioli timau enwog o'r gynghrair yng ngogledd America.
Cafodd y rowndiau terfynol eu cynnal yn Aberystwyth yr wythnos hon gan ddenu ymatebion awyddus gan y cystadleuwyr.
"Mae'n rili cŵl fod 'na tîm NBA iawn chi'n gwisgo," medd un o'r plant yn chwarae.
"Mae'n 'neud i ti teimlo'n sbesial, bod ti di cael dy ddewis i fynd ar y tîm," dywedodd un arall.
Y gobaith yw y bydd y gynghrair yn denu mwy o bobl ifanc i chwarae pêl-fasged yng Nghymru a'u hysbrydoli i ddilyn trywydd cewri'r gamp fel Michael Jordan a Lebron James.