Newyddion S4C

Beirniadu Boris Johnson am gynnig cael gwared â swydd ymgynghorydd moeseg

The Independent 16/06/2022
Boris Johnson - Rhif 10

Mae nifer o wleidyddion yn San Steffan wedi beirniadu Boris Johnson am gynnig cynllun i gael gwared â swydd ymgynghorydd moeseg o fewn y Llywodraeth. 

Daw'r cynlluniau wedi i'r Ymgynghorydd Annibynnol ar Ddiddordebau Gweinidogol, Yr Arglwydd Geidt, ymddiswyddo nos Fercher. 

Yn ei lythyr ymddiswyddo, dywedodd Yr Arglwydd Geidt ei fod wedi'i roi "mewn sefyllfa amhosib" o ganlyniad i gynllun fyddai'n peryglu torri'r cod gweinidogol.

Bellach mae'r Prif Weinidog wedi awgrymu ni ddylai'r swydd fodoli rhagor, gan fod y rôl yn derbyn gymaint o sylw cyhoeddus. 

Mae'r cynlluniau wedi arwain at feirniadaeth gan arweinwyr y Blaid Lafur, Democratiaid Rhyddfrydol a hefyd rhai o Aelodau Seneddol Ceidwadol sydd yn eistedd ar y meinciau cefn.

Darllenwch fwy yma.  

Llun: Rhif 10 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.