
Cynghrair Haf Llandyrnog a’r Cylch yn dychwelyd wedi'r pandemig

Cynghrair Haf Llandyrnog a’r Cylch yn dychwelyd wedi'r pandemig
Gyda'r Wal Goch yn gorfod aros tan y gaeaf i weld Cymru yn chwarae yn Qatar, mae Cynghrair Haf Llandyrnog a’r Cylch wedi dychwelyd i lenwi'r bwlch wedi ysbaid oherwydd y pandemig.
Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal rhwng pentrefi Dyffryn Clwyd, gan chwarae mewn tywydd braf yr haf yn hytrach na glaw a'r gwynt y gaeaf.
Mae gan y bencampwriaeth nodweddion unigryw - dim ond chwaraewyr sydd yn byw o fewn ffiniau'r pentrefi sydd yn cael cystadlu.
Wedi i'r gystadleuaeth gael ei gohirio dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd cyfyngiadau Covid-19, mae pobl yr ardal yn falch o’i chroesawu nol.
"Dwi'n teimlo dwi'n dod i nabod yr hogiau lot well," meddai Morgan Elwy, sydd yn chwarae dros CPD Nantglyn.
"Hogiau o ardal fi, fi'n nabod nhw'n barod ond dod i nabod nhw lot gwell yn bod yn rhan o'r tîm."
Lle i newidiadau?
Er bod y gystadleuaeth wedi'i chynnal ers 95 o flynyddoedd, mae’r trefnwyr yn ystyried newid y rheolau er mwyn sicrhau bod gan dimau digon o chwaraewyr.
"Da ni goro neud o so fod 'na bobl i chwarae i'r timau 'ma," meddai Clwyed Spencer, cadeirydd CPD Henllan ac un o drefnwyr y Gynghrair Haf.
"Ma na bobl yn symud allan, lot o rai ifanc yn symud allan i ddinasoedd cyfagos a lawr i Gaerdydd hefyd."

"Dwi meddwl bod o'n bwysig bod ni yn edrych i weld a oes 'na rywbeth allwn ni newid?" Ychwanegodd Siân Jones, ysgrifennydd Cynghrair Llandyrnog a’r Cylch.
"Os dy rywun yn gorfod symud allan oherwydd ma' nhw fethu cael tŷ bod ni'n cael cyfle i rywun ddod yn ôl i chwarae i dîm o nhw di chwarae wrach am 2o mlynedd, 10 mlynedd."
Er gwaethaf y problemau mae rhai clybiau yn wynebu, nid yw rhai o’r bobl leol yn awyddus i newid y rheolau.
"Ma'n mynd i fynd fatha pob cynghrair arall. Ma'n bobl yn mynd i golli diddordeb," meddai Bryn Jones, cadeirydd CPD Llangynhafal.
"Pobl yn mynd i ffrio fod 'na rhai o'r tu allan yn chwarae a ddaw o i ben mewn dim."