Newyddion S4C

'Gallai'r GIG golli traean o’i weithwyr o leiafrifoedd ethnig oherwydd hiliaeth'

ITV Cymru 17/06/2022
Gwasanaeth brys

Mae bron i draean o ddoctoraid o leiafrifoedd ethnig wedi ystyried gadael y GIG yn ystod y ddwy flynedd diwethaf o ganlyniad i hiliaeth, yn ôl adroddiad gan Gymdeithas Feddygol Prydain (BMA). 

Roedd 42% ohonyn nhw’n ddoctoriaid du, gyda 41% yn ddoctoriaid Asiaidd. 

Un nad oedd wedi’i synnu gan gasgliadau'r adroddiad oedd Dr Keshav Singhal.

“Dwi’n meddwl ei bod hi’n druenus nad yw bron i draean o weithlu lleiafrifoedd ethnig y GIG yn cael gwireddu eu llawn botensial er mwyn darparu gofal safonol i gleifion," meddai.

“Dwi wastad wedi cael fy nysgu, fel rhywun o dramor, fy mod yn gorfod rhoi 120%, a dwi wedi gweithio tuag at hynny bob tro." 

“Mae’n rhaid iti brofi dy hun dro ar ôl tro nes iti gael dy gydnabod a chael dy dderbyn, ac unwaith iti gyrraedd y pwynt hwnnw, mae bywyd yn mynd ychydig yn haws.

“Nes iti brofi dy hunan, mae pethau’n anodd," ychwanegodd.

Dywedodd cadeirydd y BMA, Dr Chaand Nagpaul, bod "hiliaeth yn dinistrio bywydau doctoriaid gan effeithio ar ofal cleifion yn ogystal â bygwth gwasanaethau".

Mae'r canfyddiadau yn cynnwys adroddiadau o ddoctoriaid o leiafrifoedd ethnig yn cael eu talu’n llai na’u cydweithwyr gwyn, a llai o gyfleoedd ar gyfer datblygiad gyrfaol. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod “yn gweithredu ar unwaith i sicrhau bod Cymru yn wlad heb hiliaeth trwy gael gwared ar bob math o wahaniaethu hiliol ac ymddygiad niweidiol yn y gweithle.".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.