Newyddion S4C

Ail-dai yn dechrau cael eu gwerthu yn sgil rheolau newydd?

Newyddion S4C 15/06/2022

Ail-dai yn dechrau cael eu gwerthu yn sgil rheolau newydd?

Gyda newidiadau mewn rheolau trethu ail-dai yn dod i rym y flwyddyn nesaf, mae adroddiadau bod sawl perchennog tai haf yng Nghymru eisoes wedi dechrau gwerthu eu heiddo. 

O Ebrill 2023 ymlaen, bydd gan awdurdodau lleol y gallu i osod premiwm treth cyngor ail-dai hyd at 300%, sydd yn gynnydd sylweddol ar yr uchafswm presennol o 100%. 

Yn ogystal, fe fydd newidiadau i'r rheolau sydd yn galluogi rhai perchnogion sydd yn llogi eu heiddo i osgoi treth cyngor gan dalu cyfraddau busnes. 

O dan y drefn newydd fe fydd yn rhaid i dai gael eu llogi am 182 diwrnod o'r flwyddyn yn lle 70 er mwyn gallu talu cyfraddau busnes. 

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y newidiadau yn rhan o "fesurau eang" i geisio lleddfu'r broblem.

Dri mis ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r polisi newydd, mae un gwerthwr tai wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C bod perchnogion bellach wedi dechrau gwerthu eu cartrefi haf. 

"Beth dwi wedi gweld yn y misoedd diwethaf yw mae newidiadau wedi dod ac mae'n nhw'n gweithio," meddai Ian Wyn-Jones, sydd yn werthwr tai yn y gogledd.

"Mae 'na lot o dai yn dod ar y farchnad lle o'r blaen do'ddan nhw ddim yn meddwl, fasa nhw'n dal yn holiday lets."

Image
Ian Wyn-Jones
Mae Ian Wyn-Jones eisoes wedi gweld newidiadau yn y farchnad tai

Ychwanwegodd nad oedd yn credu y bydd y rheolau newydd yn cael effaith ar rai o'r ardaloedd mwyaf poblogaidd ar gyfer ail-dai. 

"Mae 'na rhai llefydd yng ngogledd Cymru lle dim ots gan rhai pobl, 'nawn nhw'n dal brynu nhw," dywedodd. 

"Llefydd fel Abersoch, Llanbedrog, Bae Trearddur ar Ynys Môn. Ma' lot o bobl sy'n fanna efo'r pres a dydyn nhw'm yn fussed rili." 

'Mesurau lot mwy grymus'

Daw'r newidiadau fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru sydd yn ceisio rhoi cymorth i bobl brynu tai yn eu hardaloedd lleol. 

Ond mae rhai yn galw ar y llywodraeth i wneud mwy er mwyn mynd i'r afael â'r nifer uchel o ail-dai yn ardaloedd arfordirol Cymru. 

Ychwanegodd Rhys Tudur o'r ymgyrch 'Hawl i Fyw Adra' y dylai'r llywodraeth gymryd camau pellach i leihau'r nifer o ail-dai sydd yn bodoli.

"Mae'n rhy gynnar i allu d'eud achos dydy'r cynghorau heb eu rhoi nhw mewn lle eto ond mae'n rhaid iddyn nhw roi mesurau lot mwy grymus yn eu lle.

Image
Rhys Tudur
Yn ôl Rhys Tudur, dylai'r Llywodraeth wneud mwy i ddelio gydag ail dai

"Fel gosod treth benodol ar ail dai fel maen nhw'n cael eu prynu ac hefyd bod chi'n capio nifer yr ail dai sydd mewn cymuned.

"Mae'n rhaid gweithredu arno fo yn fuan iawn. Faswn in licio gweld y llywodraeth yn sefydlu corff monitro, fatha watchdog mewn ffordd, sy'n edrych ar y sefyllfa'n fanwl i weld faint o dai sy'n mynd i afael bobl leol o fis i fis." 

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y newidiadau yn rhan o "fesurau eang" i ddelio gyda'r effaith mae ail-dai yn eu cael ar gymunedau.

"Bwriad y newidiadau yw sicrhau bod perchnogion ail-dai a gweithredwyr gwyliau yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau lle maen nhw'n berchen eiddo neu fusnesau.

"Rydym yn ymrwymedig i weithredu'n uniongyrchol ac yn radicalaidd trwy ddefnyddio cynllunio a systemau eiddo a threth i daclo anghyfiawnder yn y farchnad tai presennol, gan gynnwys effeithiau negyddol y gall ail dai ei chael.

"Bydd gennym becyn o gynigion i daclo'r problemau yma yn fuan."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.