Newyddion S4C

Cyngor Gwynedd yn penodi Prif Weithredwr newydd

23/04/2021
Dafydd Gibbard.
Dafydd Gibbard.

Mae Cyngor Gwynedd wedi penodi Prif Weithredwr newydd.

Mewn cyfarfod llawn o'r Cyngor ddydd Gwener, cafodd Dafydd Gibbard ei benodi i'r rôl.

Bydd Mr Gibbard yn olynu Dilwyn Williams a gyhoeddodd ei fod yn camu o'r neilltu fis Ionawr.

Cafodd Dafydd Gibbard ei fagu ym Mhwllheli gan fynychu ysgolion Cymerau a Glan y Môr cyn mynd ymlaen i'r coleg ym Mangor a chymhwyso fel Syrfëwr Siartredig.

Mae wedi gweithio ym myd llywodraeth leol ers 1995 ar Gyngor Môn, cyn symud i Gyngor Gwynedd yn 2003.

'Braint aruthrol'

Dywedodd fod cael ei benodi i'r rôl yn "fraint aruthrol".

Yn ôl Mr Gibbard: “Heb os, mae’r Cyngor ar seiliau cadarn iawn ac mae llawer o hynny yn dyst i ymdrechion Dilwyn Williams fel Prif Weithredwr. Fy mwriad ydi ceisio adeiladu ar y gwaith yma, gan sicrhau fod y diwylliant o roi pobl Gwynedd yn ganolog i holl waith y Cyngor, yn parhau ac yn dwysau.

“Mi wn i fod gan y Cyngor weithlu hynod o ymroddedig ac mae hynny wedi ei amlygu fwy nag erioed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae ymdrechion rhyfeddol staff y Cyngor wedi sicrhau fod ein gwasanaethau allweddol yn parhau i fod ar gael i drigolion y sir pan maent wedi bod eu hangen fwyaf.

“Erbyn hyn, mae arwyddion cadarnhaol fod y pandemig Covid-19 yn sefydlogi a’n bod gobeithio gallu symud i gyfnod o adfer lle gallwn edrych ymlaen at rywfaint mwy o normalrwydd.

“Bydd y blynyddoedd nesaf yn cyflwyno sawl her i ni fel Cyngor. Ond rydw i’n gwybod fod y gwaith arloesol sydd wedi ei gyflawni i gynnal gwasanaethau drwy’r amseroedd anodd, yn golygu fod Gwynedd mewn lle da i gamu ymlaen yn hyderus i’r cyfnod nesaf yn ein hanes.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.